Taf-Od: Lost in translation?


The question of whether or not Taf-Od should be translated into English has been a source of controversy and impassioned debate for the last few issue. This week, Taf-Od takes a look at the opinions of three Welsh students to see if a resolution can be reached.

Llyr Gwyn Lewis

Alan Bennett in The History Boys warned against those ‘who would talk in middle age of the lure of language and their love of words. ‘Words’ said in that reverential way that is somehow Welsh.’ At the risk of falling squarely into this category, I’d like to state why I think Taf-Od, which, thanks to a visionary new editor was only re-born last year, is worth keeping, as it is, and why it should not be translated.


Read article Comment (42)

Y Ddarlith


I’r rhai ohonoch a gollodd y Stomp, dyma gyfansoddiad y bardd Huw Alun Foulkes

Dwyt ti’m yn cofio Sioned, does neb yn ei nabod hi

Achos misdêc ‘di trio cyfleu y Mabinogi fel rwbath secsi.


Read article Comment

Brand yn cefnogi ladd miliynau?


Dafydd Loughran yn datgelu hanes gudd y ganrif ddiwethaf. Ai Hitler oedd y gwaethaf?

Clywsoch hen ddigon rwy’n siŵr am y scandal achoswyd gan Russell Brand a Jonathan Ross. Collais ddiddordeb yn ddigon buan gyda’r newyddion unwaith eto yn neidio ar y cyfle i wneud môr a mynydd o ddigwyddiad digon diniwed. Gwthio ffiniau yw swydd cyflwynwyr modern fel Brand a Ross a’r union dalent yma sydd wedi gwneud y ddau mor enwog. Os ydym am weld y cyfryngau yn dal i esblygu mae’n rhaid bod y cyfrifoldeb am gynnyrch y rhaglen yn cael ei rhoi yn llwyr ar gynhyrchwyr y BBC. Os yw’r rhaglen yn cael ei wrthod, iawn, mae’r ddau yn gwybod y ffiniau. Ond unwaith iddo gael ei ddarlledu gallai ddim a gweld sut all unrhyw fai gael ei rhoi ar y ddau gymeriad talentog ac unigryw.

Rwy’n clirio’r ddau yn llwyr o unrhyw fai felly. Wel, mi wnes yn wreiddiol ta beth. Nid y digwyddiad ei hun a’m gwylltiodd ond penderfyniad Brand i wneud ei araith ymddeol yn sefyll o flaen poster o un o unbeniaid mwyaf llofruddiog yr ugeinfed ganrif. Unwaith i’r BBC rhyddhau’r fideo roedd y poster, heb syndod, wedi diflannu. Joseph Stalin oedd y dyn yn y poster, rheolwr yr USSR rhwng 1927 ac 1953. Credir ei fod yn gyfrifol am ladd rhwng 10 ac 20 miliwn o bobl. Dychmygwch y stŵr fyddai tasai Brand wedi dewis Hitler fel ei ‘pin up’ o ddewis. Wn i ddim a oedd Brand yn ymwybodol o hanes Stalin, ond mae’r ffaith ei fod yn credu bod y fath boster yn dderbyniol yn brawf bod rhywbeth o’i le yn hanes.


Read article Comment

Cyfrifoldeb at iaith


Cymrwch gipolwg ar esiampl ieithoedd leiafrifol Ewrop gyda Sara Orwig.

Y penwythnos hwn, cefais sgwrs ag un o’m ffrindiau gorau am ddysgu Cymraeg i’n plant yn y dyfodol. Roedd hi o’r farn y byddai hi’n dysgu Cymraeg i’w phlant petai hi’n byw yng Nghymru, mwy na thebyg petai hi’n byw ym Mhrydain, ond doedd hi’m wir yn gweld gwerth yn ei dysgu’n rhygl i’w phlant petai hi’n byw mewn rhan arall o’r byd. Fodd bynnag, rydw i’n siwr y byddai’n dysgu Cymraeg i’m mhlant dim ots lle y byddwn ni’n byw.

Ydi hyn yn fy nghwneud i’n eithafol? Efallai byddai mwy o wybodaeth o werth i chi. Mae hi o deulu Saesneg, wedi symud i Gymru, sy’n medru’r Gymraeg ond Saesneg yw iaith yr aelwyd. Rydw i o deulu Cymraeg cryf, ac yn cael ffrae os ddefnyddia i air Saesneg o’u blaen os oes gair Cymraeg i’w gael. Roedd hi’n gweld, hyd yn oed os y buaswn i’n byw dramor, y byddai fy mlant yn siarad Cymraeg â gweddill y teulu, tra byddai ei phlant hi yn gorfod siarad Saesneg â’i theulu hithau.


Read article Comment

Her yr Hydref


Her yr Hydref

Mae’n bellach yn fis Tachwedd ac mae’r gyfres Invesco Perpetual yn ôl i’n diddanu unwaith eto. Pedair gêm sydd gan dîm Cymru i’w chware eleni gan gynnwys y cewri o hemisffer y de a Canada. Erbyn i chi ddarllen y darn yma, fe fyddwn wedi mwynhau un Sadwrn o rygbi rhyngwladol yn barod, gyda’r “Springbokke” yn dod i Gaerdydd ar yr 8fed o Dachwedd, felly rhagflas yn unig yw hwn o’r hyn y gallwn ni ddisgwyl o’r wledd o rygbi sy’n ein haros. gyda Chanada ar y 14eg, Seland Newydd ar yr 22ain ac yn olaf Awstralia ar y 29ain.

Gyda’r garfan wedi ei chyhoeddi eisioes, gallwn ddechrau trafod pa chwaraewyr sy’n debygol o ddisgleirio dros gyfnod y gyfres yma. Braf yw gweld ychydig o hen bennau yn cael ail gyfle i brofi ei hunain, a braf hefyd yw gweld tipyn o wynebau ifanc yn eu plith, gan gynnwys Morgan Stoddart a Dafydd Jones o’r Sgarlets yn dychwelyd o’r cyffiniau rhyngwladol, a’r bwystfil Andy Powell yn derbyn galwad arall i gynrycholi ei wlad. Mae’r enwau rheolaidd i gyd yn y garfan, gyda disgwyl mawr ar rai fel James Hook a Gavin Henson i gyflawni ei potensial, yn ogystal a nifer o wynebau newydd megis Leigh Halfpenny, asgellwr chwim y Gleision, mewnwr ifanc y Sgarlets Martin Roberts a Dan Biggar, y maswr pedwar ar bymtheg oed o ranbarth Y Gweilch. Y chwaraewyr pennaf i wylio yn y gyfres yma fydd y ddau ifanc o’r Gleision, Leigh Halfpenny a’r canolwr enfawr Jamie Roberts.


Read article Comment (1)

Beth ddigwyddodd i arwyr ein plentyndod?


Mae rhaglenni teledu i blant ar S4C yn warthus! Efallai bod hyn ddim yn eich poeni fel ‘oedolion’ ond wrth edrych nol ar raglenni plant fy mhelntyndod, teimlaf bod y genhedlaeth nesaf yn colli rhan bwysig o fagwraeth Gymraeg.

Beth ddigwyddodd i Sion Blewyn Coch, Wil Cwac Cwac, Swperted a Sam Tân? Maent bellach wedi eu cyfnewid am gyfieithiadau gwael o raglenni Americanaidd. Pan fod ‘Mona the Vampire’ ymlaen ar y BBC, ni ellir ddisgwyl i blant Cymru wylio ‘Mona y fampir’ (cyfieithiad ofnadwy!) ‘Bywyd cudd Sabrina’ neu ‘Tylwyth od Timmy’. Mae rhywbeth reit anghyfforddus ynglyn a gwrando ar actorion cymraeg yn ceisio gwneud lleisiau gwirion sy’n apelio i blant. Mae’r canlyniad yn boenus!


Read article Comment

Paris, Milan, New York... Caerdydd?


Paris, Milan, New York... Caerdydd?

Beth ydy’ch barn chi am ffasiwn Caerdydd? Yw hi’n ddinas sy’n dilyn ffasiwn y stryd fawr neu’n ffindio ffordd ei hun? Neu yw hi’n hollol an-ffasiynol?

Wrth gerdded i lawr Stryd y Frenhines mae pob math o ffasiynau i’w gweld – o’r topshop-holics i’r Mods a’r hippies. Er hyn mae nifer o’r trigolion i weld yn byw mewn hoodies a boots Ugg. O ran ffasiwn Prydain, mae dillad mwy alternative yn dod i’r fei. Erbyn hyn mae pobl yn gweld yr ochr ddrwg i ffasiwn y stryd fawr, bod hynny’r pris neu’r ffaith bod nifer o’r siopau yma’n defnyddio sweatshops. Neu efallai fod pobl wedi syrffedu ar wisgo ‘run peth a phobl eraill. Mae dillad vintage wedi dod yn beth ffasiynnol iawn, ac erbyn hyn mae hi’n fwy derbynniol i chi siopa mewn siopau elysen.

Mae gan Gaerdydd lawer i’w gynnig os mae ffasiwn y stryd fawr sy’n mynd a’ch pryd. Mae Stryd y Frenhines yn llawn enwau mawr sy’n edrych i ddenu myfyrwyr, gyda rhai siopau’n cynnig gostyngiadau pris i fyfyrwyr, fel arfer o 10%. Yn ogystal a hyn mae Topshop yn cynnal nosweithau lle mae’r gostyngiad yn 20% ar ddechrau tymor yr hydref – i’r rhai wnaeth ei fethu wythnos dwytha, rhowch o’n eich dyddiadur at flwyddyn nesa!


Read article Comment

Popeth yn Gymraeg?


Os ydych chi’n darllen yr erthygl hon rydych chi’n amlwg yn Gymro neu’n Gymraes ac yn un o nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy’n gadael cartref hollol neu rhannol Gymraeg ei hiaith. Roeddech efallai wedi syfrdannu i sylwi eich bod erbyn hyn yn byw mewn dinas fodern lle mae’r Gymraeg yn un o nifer o ieithoedd lleiafrifol. Yn ôl cyngor Caerdydd yn 2001 roedd 10.9% o boblogaeth y Sir yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rydym ni’n ceisio cymdeithasu fel Cymry, a byw bywyd Cymraeg, oleia’n rhannol, ac yn dueddol o deimlo cyfrifoldeb tuag at y hybu’r Cymraeg.

Mae nifer o ffyrdd y gellir hybu’r a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae nifer o dafarndai Cymreig, fel y Mochyn Du, Queen’s Vault ac Owain Glyndŵr. Yn ystod gemau’r chwech gwlad mae’r tafarndai yma, a nifer o rai eraill, yn orlawn o Gymry yn gweiddi eu cefnogaeth a chreu awyrgylch tanllyd dros y ddinas. Mae’n siwr eich bod wedi darganfod Clwb Ifor Bach erbyn hyn a profi lle mor dda ydyw i gwrdd â Cymry a chymdeithasu’n Gymraeg. Caiff ei alw’n ‘Welsh Club’ am reswm! Cynhelir hefyd nosweithiau o gerddoriaeth Cymraeg ar draws y ddinas megis llynedd bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gigs misol yn Buffalos. Mae’r ŵyl gerddorol ‘Sŵn fest’ hefyd yn gyfle i glywed bandiau cymraeg ac addysgu myfyrwyr y ddinas am y Sin Roc Gymraeg. Bydd dros cant o fandiau rhyngwladol yn perfformio mewn nifer o glybiau ar draws Caerdydd rhwng y 13-16 o Dachwedd.


Read article Comment

'Y ddinas fach Gymreig' Y Gym Gym


'Y ddinas fach Gymreig' Y Gym Gym

Nid yw Caerdydd yn ddinas fawr iawn ar y cyfriw. O’i gymharu â dinasoedd mawr ein byd, lle bychan iawn ydyw. Ond gyda tua 30,000 o bobl ifanc yn y Prifysgolion, mae hi’n cynnig y gorau ym mhob agwedd o fywyd myfyriwr.

Beth sy’n gwneud Caerdydd yn unigryw i ddinasoedd eraill Prydain, yw ei bod yn ddinas gymreig. Caerdydd yw calon Cymru, ac er efallai y byddai rhai yn anghytuno, ni ellir gwadu na ganolir nifer helaeth o bethau Cymreig a Chymraeg yng Nghaerdydd- o Ganolfan y Mileniwm a’r Cynulliad i Stadiwm y Mileniwm sef cartref ein tîm rygbi cenedlaethol. Heb os nac onibae, mae Caerdydd yn llawn cyfoeth o Gymreictod cyffrous.


Read article Comment

Doniau Disglair yn Difyrru


Doniau Disglair yn Difyrru

Doniau Disglair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008

Mae’n debyg mai’r un llyfr a chanddo’r gwerthiant gorau yng Nghymru’n flynyddol yw Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r holl ddyfalu blynyddol a’r statws dyrchafedig a roddir i enillwyr y prif wobrau’n golygu bod yna fynd go fawr ar y gyfrol hon, wrth i’r darllenydd awchu am gael profi o’r arlwy sydd, yn aml, wedi’i ganmol i’r cymylau gan y beirniaid, neu’n fwy awyddus, efallai, i nodi gwendidau’r darn a oedd o fewn trwch blewyn i gael ail.

Ond bellach, daeth diwedd Mai hefyd yn gyfnod o flysio am gynnyrch arobryn ieuenctid y wlad. Mae’r safon yn cynyddu’n flynyddol, a’r rhagolygon am gyfansoddiadau Eisteddfodau Cenedlaethol y dyfodol yn argoeli’n dda iawn. Eleni yr un modd, chaiff y darllenydd mo’i siomi wrth bori drwy weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod yr Urdd.


Read article Comment