Ffion James

Golygydd Taf-od

Mae’n debyg fod pob un ohonoch yn gwybod am lansiad y papur newydd Cymraeg cyntaf a fydd yn hynod arwyddocaol i ni’r Cymry. Mae Y Byd wedi bod yn cael ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r galw am bapur newydd yn ein mamiaith.

Ond ydych chi wedi meddwl pam mai nawr yn unig y daw’r galw am bapur newydd o’r fath? Erbyn heddiw, gellir dweud yn saff mai papur newydd yw’r unig gyfrwng sy’n gallu cyrraedd nifer o Gymry Cymraeg o ganlyniad i’n bywydau prysur, sy’n cynnwys teithio’n eang a gweithio oriau hir. Efallai mai’r lansiad yma fydd y peth gorau sydd erioed wedi digwydd i’r Gymraeg? Pwy a w ˆ yr?

Bydd Y Byd yn cael ei gyhoeddi bum niwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y papur newydd yn ein hysbysu am ddigwyddiadau yma yng Nghymru a hefyd newyddion Prydeinig a rhyngwladol Yn ôl pob sôn, bydd hefyd digon o sylw yn cael ei roi ar chwaraeon, busnes, yr economi, addysg, amaethyddiaeth, diwylliant a hamdden.

Mae disgwyl i’r papur gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf ar Fawrth y 3ydd, ond fel sy’n wybodaeth gyffredinol i bawb yma yng Nghymru erbyn hyn, nad yw deadline yn ei ffurff symlaf yn golygu dim i’r Cymry! Felly mae’n debyg na fydd y papur yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth y 3ydd wedi’r cyfan gan ei bod hi wedi mynd yn ben set arnynt.

Y Gymraeg yw un o’r ychydig ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop sydd heb bapur dyddiol yn yr iaith frodorol. Diffyg buddsoddiad a chefnogaeth sy’n gyfrifol am hyn, heb sôn am y diffyg hyder. Ond erbyn hyn, mae’r bobl sydd y tu ôl i’r papur Y Byd o’r farn na fydd hi’n broblem i’r papur newydd yma lwyddo.

Ym Machynlleth fydd prif swyddfa’r papur newydd, lle bydd tîm o tua 24 o bobl yn gweithio, a thros eu hanner yn debygol o fod yn newyddiadurwyr. Hyd yn oed ar hyn o bryd, mae gan y papur wefan ddefnyddiol, sy’n cynnwys amrediad o bynciau trafod. Ewch draw am swae!