Yn gyntaf, ymddiheuriadau am yr erthygl a gafodd ei gwastraffu’r wythnos diwethaf. Ysgrifennais erthygl ar hanes y papur newydd dyddiol Cymraeg Y Byd, a gwneud rhyw fath o hwyl am ben y Cymry am beidio â gallu cyrraedd targedau mewn pryd.
I’r rheini ohonoch sy’n darllen y papurau dyddiol ac yn edrych ar y newyddion, mi fyddwch yn gwybod beth ddigwyddodd nesaf. Ond i’r gweddill ohonoch, dyma a ddigwyddodd. Dim ond deuddydd wedi i’m herthygl gael ei gyrru i gael ei phrintio, roedd penawdau’r newyddion yn darllen ‘Ergyd i’r Byd’. Yn syml iawn, ni fydd y papur newydd Cymraeg dyddiol yn cael ei sefydlu o gwbl erbyn hyn.
Dwi ddim am droedio’r tir peryglus o enwi pob unigolyn o Gaerdydd a brofodd lwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Nghaerfyrddin ychydig dros wythnos yn ôl. Pe bawn yn ceisio gwneud hynny fe fyddwn yn siwr o anghofio rhywun, felly gwell peidio enwi neb er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad! O ran cytadlaethau’r corau a’r partïon daeth y Gym Gym i’r brig yng nghystadleuaeth y parti sioe gerdd a’r côr bechgyn.
Ail oedd Caerdydd pan gyhoeddwyd marciau terfynol y diwrnod. Fel y llynedd, daethom yn ail i’r brifysgol oedd yn cystadlu ar ei thir ei hun; Bangor yn achos 2007 a Choleg y Drindod eleni. Bydd unrhyw un sydd wedi mynychu eisteddfod ryng-golegol yn gwybod bod ychydig o ffafriaeth a dweud y lleiaf yn cael ei roi i’r tîm sy’n cynnal yr eisteddfod, ac wrth ystyried hynny, roedd dod yn ail yn ganlyniad da, bron cystal ag ennill i bob pwrpas! Yn ogystal â chanmol llwyddiannau Caerdydd ar y llwyfan dylid clodfori agwedd y Gym Gym yn y gynulleidfa hefyd. Teg dweud ein bod ar y cyfan, yn rhoi perffaith chwarae teg i’r colegau eraill wrth iddynt gystadlu sydd yn fwy nag y gellir ei ddweud am rai o’r colegau hynny, (heb enwi neb – Aber).