‘Eisteddfod’ Rhyng-Gol?

Dwi ddim am droedio’r tir peryglus o enwi pob unigolyn o Gaerdydd a brofodd lwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Nghaerfyrddin ychydig dros wythnos yn ôl. Pe bawn yn ceisio gwneud hynny fe fyddwn yn siwr o anghofio rhywun, felly gwell peidio enwi neb er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad! O ran cytadlaethau’r corau a’r partïon daeth y Gym Gym i’r brig yng nghystadleuaeth y parti sioe gerdd a’r côr bechgyn.

Ail oedd Caerdydd pan gyhoeddwyd marciau terfynol y diwrnod. Fel y llynedd, daethom yn ail i’r brifysgol oedd yn cystadlu ar ei thir ei hun; Bangor yn achos 2007 a Choleg y Drindod eleni. Bydd unrhyw un sydd wedi mynychu eisteddfod ryng-golegol yn gwybod bod ychydig o ffafriaeth a dweud y lleiaf yn cael ei roi i’r tîm sy’n cynnal yr eisteddfod, ac wrth ystyried hynny, roedd dod yn ail yn ganlyniad da, bron cystal ag ennill i bob pwrpas! Yn ogystal â chanmol llwyddiannau Caerdydd ar y llwyfan dylid clodfori agwedd y Gym Gym yn y gynulleidfa hefyd. Teg dweud ein bod ar y cyfan, yn rhoi perffaith chwarae teg i’r colegau eraill wrth iddynt gystadlu sydd yn fwy nag y gellir ei ddweud am rai o’r colegau hynny, (heb enwi neb – Aber).

Yn anffodus, ymddengys bod y diffyg gwrandawiad a’r mân siarad yma wrth i bobl gystadlu, yn nodwedd o’r Eisteddfod Ryng-golegol. Roedd pob coleg yn euog o hyn i raddau gwahanol drwy gydol y diwrnod. Dylid prysuro i nodi nad oedd y sefyllfa eleni cynddrwg a’r llynell pan yr oedd y bar yn yr un ystafell a’r eisteddfod ei hun. O leiaf, eleni roedd strwythyr y lleoliad yn well, a doedd dim swn uniongyrchol o’r bar, er mai hwnnw oedd gwraidd y broblem o hyd y mae’n debyg. Dyma un o lawer o resymau pam y gellid codi’r cwestiwn: ai ‘eisteddfod’ yw’r digwyddiad blynyddol hwn mewn gwirionedd?

Yn sicr, o ran ymddygiad y gynulleidfa, ac ambell un ar y llwyfan hefyd does dim llawer o debygrwydd yn yr ‘eisteddfod’ hon i Eisteddfod yr Urdd er enghraifft. Tebycach i eisteddfod y mudiad Ffermwyr Ieuanc yw hi o bosib’, ond eto, caiff y cystadleuwyr chwarae teg yn yr eisteddfod honno hefyd. Cyn i neb feddwl fy mod yn rhyw hen ddyn diflas, dwi ddim yn ceisio dweud am un munud bod rhywbeth o’i le ar y digwyddiad rhyng-golegol yma fel ag y mae, cynigia’r awyrgylch ysgafn rhywbeth gwahanol i ‘eisteddfodau’ eraill, ac mae hynny’n beth da. Ond tybed a ddylid cysylltu’r gair ‘eisteddfod’ â digwyddiad o’r fath? Gair a thraddodiad sydd mor bwysig i hunaniaeth Cymru. A fyddai ffug-eisteddfod yn fwy addas?

Efallai ddim, ond pe bai ffug-eisteddfod ar y nos Wener dyweder, yn ogystal â’r eisteddfod ei hun ar y dydd Sadwrn, byddai mwy o le wedyn i’r cystadlaethau ysgafn a’r gefnogaeth swnllyd. Gyda threfniant felly gallai pawb fwynhau cystadlu meddwol ar y nos Wener, ac yna nyrsio eu pen-maen-mawr gyda diwrnod o gystadlu safonol ar y dydd Sadwrn, heb orfod dioddef sgets erchyll sy’n cynnwys mwy o regiadau na phennod o ‘Ramseys Kitchen Nightmares’! Mae ffug-eisteddfodau rhyng-golegaidd wedi’u cynnal yn y gorffennol a byddwn i yn un person a fyddai yn eu croesawy’n ôl.

Wrth gwrs, gellid gwella ar y sefyllfa bresennol heb wneud newidiadau mor fawr. Byddai trefnu amserlen y dydd fel bod prif gystadleuthau’r corau ac ati yn digwydd yn nghynt yn gwneud lles. Byddai safon y cystadlaethau hyn ar eu hennill o gael cystadleuwyr sobrach, ac yna gallai pawb fwynhau hiwmor y sgets, y deuawd doniol a’r dawnsio disgo yn hwyrach ymlaen yn y dydd.

Ond waeth beth ddywed neb am y digwyddiad, mae pawb yn mwynhau yn y bôn, ac yn sicr doedd eleni ddim yn eithriad. Mae’n gyfle gwych i weld hen ffrindiau o golegau eraill ac yn esgis am drip bach a newid o Gaerdydd am un diwrnod.