Daeth y galw am drip rygbi blynyddol y Gym Gym i’r fei yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ddechrau mis Mawrth. Wedi i’r criw fod yn ymbaratoi ar gyfer y daith fythgofiadwy, roedd popeth yn barod, a Dulyn yn aros amdanom.
Wedi cychwyn am Gaergybi am tua saith y bore, dechreuodd pawb gynhyrfu’n lân wrth feddwl am y penwythnos oedd i ddod. Roedd gyrwyr y bysiau, Mike a Peter yn rhoi’r troed ar y sbardun fel petai, gan yrru i fan bellaf Gogledd Cymru a chael amser am ysbaid mewn dim ond oddeutu 5 awr.
Dim ond gair bach byr i sôn am y stomp a gynhaliwyd yn nghaffi CF10 yn yr undeb ychydig yn ôl. Cafwyd noson hynod ddifyr yno, wrth i dîm o feirdd y Gym Gym herio tîm o ddarlithwyr yr adran Gymraeg. Tasg Mererid Hopwood, y stompfeistres oedd cadw trefn ar y cyfan, a gwnaeth hynny â ffraethineb.
Cymysgedd o’r dwys a’r doniol oedd y cerddi, ond hwyliau ysgafn iawn oedd i’r noson yn gyffredinol. I’r myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg, roedd hi’n gyfle gwych i gymdeithasu â’r darlithwyr mewn awyrgylch anffurfiol, ond does dim dwywaith i aelodau eraill y Gym Gym fwynhau’r noson hefyd. Oherwydd naws gyfeillgar y cystadlu, roedd hi’n addas rhywsut mai cyfartal oedd y ddau dîm pan y cyhoeddwyd y marciau terfynol.
Gyda sïon ar droed yn Nulun bod pob fferi wedi’u canslo tan ddydd Marth, roedd rhywun yn dechrau amau a fyddai hanner aelodau aelwyd y Waun Ddyfal yn dychwelyd i Gymru erbyn yr eistedfod sir! Cynhaliwyd honno yng Nghanolfan y Mileniwm, nos Lun, Mawrth y 10fed, a diolch byth, roedd y rhai a fu ar y trip rygbi yn yr Ynys Werdd wedi llwyddo i’w gwneud hi, er ein bod i gyd yn hynod flinedig.
Efallai nad oedd y cythraul canu mor amlwg â’r llynedd gan nad oedd CF1 yn cystadlu mewn cymaint o gystadlaethau eleni, ond roedd digon ohono i’w gael mewn ambell gystadleuaeth ble roedd mwy nag un côr neu barti o’r Waun Ddyfal yn cystadlu! Yr unig gystadlaethau yr oedd y Waun Ddyfal ac CF1 yn cystadlu ynddynt oedd y côr merched a’r parti cerdd dant, gyda CF1 yn fuddugol yn y naill, a’r Waun Ddyfal yn y llall. Roedd dau grw ^ p llefaru o’r aelwyd yn cystadlu, parti’r hwntws a pharti’r gogs! Y gogs fu’n fuddugol ond bydd y ddau barti’n mynd drwodd i’r genedlaethol, felly hefyd y ddau gôr o’r gystadleuaeth côr SATB. Roedd y côr meibion a’r côr SATB (aelwyd) hefyd yn deilwng o’r wobr gyntaf ac yn mynd ymlaen i’r genedlaethol yn Llandudno.