Daeth y galw am drip rygbi blynyddol y Gym Gym i’r fei yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ddechrau mis Mawrth. Wedi i’r criw fod yn ymbaratoi ar gyfer y daith fythgofiadwy, roedd popeth yn barod, a Dulyn yn aros amdanom.
Wedi cychwyn am Gaergybi am tua saith y bore, dechreuodd pawb gynhyrfu’n lân wrth feddwl am y penwythnos oedd i ddod. Roedd gyrwyr y bysiau, Mike a Peter yn rhoi’r troed ar y sbardun fel petai, gan yrru i fan bellaf Gogledd Cymru a chael amser am ysbaid mewn dim ond oddeutu 5 awr.
Cyrhaeddom Gaergybi a pharhau i deithio dros Fôr Iwerddon am dair awr. Cychwynnodd y cwch enfawr, naw llawr, gan ddechrau siglo yn araf o’r naill ochr i’r llall, gan adael ein coesau’n teimlo’n simsan. Rhaid oedd i nifer gymryd tabledi i geisio sodro’r stumogau, ond erbyn cyrraedd y porthladd yn Nulyn, mae’n debyg fod yr alcohol wedi tynnu’r meddwl oddi ar y salwch, a gwneud mwy o les nac o niwed.
Wedi cyrraedd yr ochr arall, neidiodd pawb yn ôl ar y bws, ac i ffwrdd a ni am yr hostel. Ia, hostel, nid hotel. Ac yn wir, dyma a gafwyd, yng ngwir ystyr y gair… hostel. Roedd yr hostel yn ymddangos yn hyfryd dros ben o’r tu allan, a hefyd yn y cyntedd, ond gwyddom fod rhywbeth o’i le pan ddarganfyddom fod ambell i sinc yn hongian oddi ar y waliau yn y toiledau, yn ogystal â phlygiau yn y waliau â’u gwifrau’n hongian allan yn blith draphlith. Roedd y gwlâu yn gyfforddus, ac yn eithaf glân, er bod ambell i unknown substance ar flancedi’r anffodusion.
Ond ni effeithiodd hyn ar benwythnos neb. Cyffroi wnaeth pawb yn syth wrth iddynt ddeffro ar fore Sadwrn yr 8fed o Fawrth gan sylweddoli ei bod hi’n ddiwrnod gêm a bod modd i’r Cymry lwyddo yn y gêm benodol hon, gan geisio am y tripple crown a pharhau i geisio ennill y bencampwriaeth. Gwisgodd pawb eu crysau rygbi arbennig, ac er mawr gywilydd, yn y dafarn y bu pawb ddydd Sadwrn, o tua 10 y bore hyd yr oriau mân.
Mae Dulyn yn hynod o adnabyddus am ei diwylliant arbennig yn ogystal â’r cymeriadau unigryw sy’n byw yno. Gwahanodd cant o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar hyd a lled y ddinas, gan gymryd drosodd degau o dafarndai. Gallwch fod wedi meddwl eich bod yng Nghaerdydd yn hytrach nag yn Nulyn, gan fod y Cymry yn creu môr coch. Roedd pob tafarn yr un fath, pob man yn llawn dop. Prin iawn oedd y Gwyddelod â’u crysau gwyrdd, ac yn eu lle, crysau cochion, a’r Gymraeg i’w chlywed ym mhob cwr o’r ddinas.
Nid oes angen imi fanylu ar y fuddugoliaeth gafodd Cymru, gan fy mod yn sicr eich bod chwithau wedi dathlu yn yr un modd… digon o weiddi, sgrechian, clapio heb anghofio’r alcohol. Achosodd y fuddugoliaeth i bawb fynd yn wirion bost, ac felly i ffwrdd a phawb i ardal Temple Bar, Dulyn lle’r oedd cannoedd os nad miloedd yn ceisio gwasgu eu hunain i mewn i unrhyw dafarn bosib! Yn eu plith roedd 240 o aelodau Prifysgol Aberystwyth yn ogystal â swm go hegar o fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Er mawr syndod i ni, daethom o hyd i Gwibdaith Hen Frân yn bysgio ar un o strydoedd Temple Bar, a dyna lle’r oedd y Cymry ifainc yn dawnsio’n braf yng nghanol y stryd. Wrth fod yn dyst i hyn, sylweddolais fod natur a naws yr Iwerddon a’r Gwyddelod yn llawer iawn yn fwy hamddenol nag agwedd y Cymry tuag at fywyd. Braf oedd profi mymryn o ddiwylliant gwahanol, er bod y ddwy wlad Geltaidd yn berthnasau digon agos.
Daeth dydd Sul i’r fei heb fawr o rybudd, ac ambell un yn ysu am gael aros yn eu gwlâu. Er y blinder aruthrol, cafodd nifer ddiwrnod i’r brenin yn siopa ac yn ymweld â mannau hynafol a hanesyddol yn ninas Dulyn. Braf oedd cael diwrnod yn y ddinas wych, ond yng nghefn meddwl pawb, roedd ofn yn gwingo. Wedi gwrando ar y newyddion ac ar y tywydd drwy gydol y penwythnos, clywsom fod tywydd garw a stormus ar y ffordd, a allai effeithio ar rediad y cychod yn nol i Gymru. Gydag ychydig o lwc, roedden ni’n saff, ond bu’r daith yn ôl i Gymru yn un sigledig a dweud y lleiaf. Roedd y storm ar ei ffordd, a’r gwyntoedd cryfion yn taflu’r cwch o ochr i ochr.
Bu’r daith yn ôl i Gaerdydd yn un ddigon hwylus, gyda Mike a Peter unwaith yn rhagor yn gyrru fel mellt ar hyd y traffyrdd, er gwaethaf y gwynt, y glaw a’r cenllysg. Er bod pawb yn dioddef o effeithiau blinder yn bennaf erbyn cyrraedd Caerdydd, roedd gwên ar wyneb pawb wrth feddwl am y trip anhygoel yr oeddynt wedi ei gael. Bu’r trip ei hun yn un llwyddiannus, heb sôn am y ffaith i Gymru guro’r gêm yn erbyn Iwerddon. Dim ond gobeithio y bydd tîm Cymru’n rhoi sioe’r un mor dda i ni yn eu gêm olaf yn erbyn Ffrainc yma yng Nghaerdydd.
