Mae diwrnod mawr yr Adar Gleision y prysur agosáu bellach. Bydd tîm pêl droed Caerdydd yn herio Portmouth yn Wembley ddydd Sadwrn wrth i wythnosau o aros ddod i ben i gefnogwyr y Prifddinaswyr. Does dim diwrnod yn mynd heibio heb i’r clwb fod yn y newyddion am rhyw reswm neu’i gilydd, a’r teimlad a geir wrth glywed bob stori yw bod Caerdydd wedi cael perffaith chwarae teg, a mwy efallai.
Dylwn nodi mai Caerdydd yw fy ail dîm, yn dilyn cochion Lerpwl felly mae’r hyn yr wyf am ei ddweud yn hollol ddi-duedd! Y stwr gyntaf a gafwyd oedd y cwestiwn mawr: a ddylai Caerdydd gael chwarae yn nghwpan UEFA y flwyddyn nesaf os ydynt yn ennill cwpan yr F. A. Wrth gwrs, yr ateb ym marn pob cefnogwr a minnau yn eu plith hwy oedd, ‘wel ydynt siwr iawn’. Maent yn chwarae yn nghynghrair Lloegr felly mae pob hawl ganddynt i gynrychioli’r wlad honno yn y gystadleuaeth Ewropeaidd.
Ond yna cododd y cwestiwn yngl^ y n â chwarae ein hanthem genedlaethol cyn derchrau’r gêm, ac unwaith eto roedd llawer yn gadarn o blaid, ac mae’n debyg y bydd hynny’n digwydd. Ond os yw’r clwb am gael eu hystyried yn ran o F. A. Lloegr ar gyfer y cyfle o chwarae’n Ewrop nid oes rheswm dros chwarae anthem Cymru mewn gwirionedd.
Yna yn ddiweddar bu tro arall yn y gynffon. Dylai Darren Purse fod wedi ei wahardd rhag chwarae yn y ffeinal, wedi iddo dderbyn cerdyn coch yn dilyn tacl ar Andrew Cole ychydig wythnosau yn ôl. Disgrifwyd y dacl fel yr un waethaf y mae erioed wedi ei derbyn yn ei yrfa gan Cole sydd bellach yn 36 oed, a go brin y byddai cefnogwyr Caerdydd hyd yn oed yn gallu dadlau nad oedd hi’n dacl go fudur. Ond eto, mae Caerdydd wedi llwyddo i ddiddymu’r gwaharddiad trwy apelio yn erbyn y dyfarniad, nid trwy F. A. Lloegr ond trwy Gymdeithas Bêl Droed Cymru!
Teg dweud bod Caerdydd wedi cael ei ffordd ei hun yn ddigon aml dros yr wythnosau diwethaf felly, dim ond gobeithio y bydd hynny’n parhau ddydd Sadwrn!
