Mae rhai pobl yn dueddol o siarad am y tywydd pan nad oes ganddynt ddim byd arall i siarad amdano. Mae arna’i ofn fy mod i’n euog o hynny’r wythnos yma!
Bydd pawb wedi sylwi bod y tywydd wedi bod yn anarferol o braf yn ddiweddar, os fydd hynny’n wir o hyd erbyn i hwn gael ei argraffu sy’n gwestiwn arall! Efallai mai fi sy’n dechrau drysu ond mae hi fel pe bai’r haf yn dod yn gynt bob blwyddyn! Ymddengys bellach fod hi’n ddisgwyliadwy bron iddi fod yn haul poeth trwy’r cyfnod arholiadau gan wneud adolygu ar eu cyfer yn orchwyl gymaint anoddach. Ac yna, wedi’r arholiadau orffen fe ddiflanna’r haul i rywle am flwyddyn arall, gan fod yn ddigon digywilydd i beidio gwneud ymddangosiad yn y ‘Steddfod hyd yn oed!
Gyda’r flwyddyn brifysgol yn brysur ddod i ben does dim llawer o amser i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol sydd wrth gwrs eleni yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd.
Wythnos ryfedd iawn yw hon i unrhyw ddilynwr o’r Sîn Roc Gymraeg. Trwy’r flwyddyn mae gigs o safon yn gallu bod yn bethau prin. Ond yn yr Eisteddfod weithiau rhaid dewis rhwng dwy neu dair o gigs da sy’n digwydd yr un noson. Felly, os am osgoi penbleth ar y maes yn y prynhawn, mae misoedd o waith paratoi yn allweddol! Nid yw rhestr gigs Cymdeithas yr Iaith wedi ei gwblhau eto ond gellir taro golwg ar arlwy Maes B.