Gyda’r flwyddyn brifysgol yn brysur ddod i ben does dim llawer o amser i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol sydd wrth gwrs eleni yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd.
Wythnos ryfedd iawn yw hon i unrhyw ddilynwr o’r Sîn Roc Gymraeg. Trwy’r flwyddyn mae gigs o safon yn gallu bod yn bethau prin. Ond yn yr Eisteddfod weithiau rhaid dewis rhwng dwy neu dair o gigs da sy’n digwydd yr un noson. Felly, os am osgoi penbleth ar y maes yn y prynhawn, mae misoedd o waith paratoi yn allweddol! Nid yw rhestr gigs Cymdeithas yr Iaith wedi ei gwblhau eto ond gellir taro golwg ar arlwy Maes B.
Brwydr y bandiau fydd yn cael llawer o sylw ar ddechrau’r wythnos fel pob blwyddyn arall, ac mae ambell ‘lein yp’ go addawol ar gael hefyd, mae nos Sul gyda Youcatan a Pwsi Meri Mew yn edrych yn reit dda. Ond at ail hanner yr wythnos y bydd pethau’n poethi. Cerys Mathews yw’r enw mwyaf fydd yn perfformio trwy’r wythnos a bydd hynny ar y nos Fercher. O ran y penwythnos mae nos Sadwrn yn argoeli i fod yn dipyn o noson gyda Jen Jeniro, Cowbois, Gwibdaith, Swci, Derwyddon, a Genod Droog i gyd yn perfformio. Siomedig ar y llaw arall yw rhestr Nos Wener gyda dim ond y Sibrydion yn tynnu sylw.
Fydd dim angen llawer ar Gymdeithas yr Iaith i ddenu’r niferoedd ar y nos Wener felly, a bydd edrych ymlaen mawr nawr i weld yr hyn a gynigir ganddynt hwy drwy gydol yr wythnos. Ond fydd dim rhaid disgwyl mor hir â hynny, achos mae’r nesaf yn eu cyfres o gigs sy’n arwain at y ‘Sdeddfod (gigs stafell fyw) yn cael ei chynnal nos Iau yma. Bydd DJ Dyl Mei, Sweet Baboo, Al Lewis, a Heather Jones i gyd ym Mar Buffalo o wyth o gloch ymlaen. Cyfle gwych i unrhyw un sydd yn methu aros tan y ‘Sdeddfod i gael rhyw damaid bach i aros pryd felly!
