Mae rhai pobl yn dueddol o siarad am y tywydd pan nad oes ganddynt ddim byd arall i siarad amdano. Mae arna’i ofn fy mod i’n euog o hynny’r wythnos yma!

Bydd pawb wedi sylwi bod y tywydd wedi bod yn anarferol o braf yn ddiweddar, os fydd hynny’n wir o hyd erbyn i hwn gael ei argraffu sy’n gwestiwn arall! Efallai mai fi sy’n dechrau drysu ond mae hi fel pe bai’r haf yn dod yn gynt bob blwyddyn! Ymddengys bellach fod hi’n ddisgwyliadwy bron iddi fod yn haul poeth trwy’r cyfnod arholiadau gan wneud adolygu ar eu cyfer yn orchwyl gymaint anoddach. Ac yna, wedi’r arholiadau orffen fe ddiflanna’r haul i rywle am flwyddyn arall, gan fod yn ddigon digywilydd i beidio gwneud ymddangosiad yn y ‘Steddfod hyd yn oed!

Ar un wedd, ein bai ni fel dynoliaeth yw’r newid hwn yn yr hinsawdd a dylem fod yn barod i dderbyn canlyniadau ein difrod. Ar y llaw arall, os yw’r hinsawdd yn newid pam na allwn ni addasu hefyd? Pwy sy’n dweud y dylai gwyliau haf pawb fod yn ystod mis Gorffennaf ag Awst? Pam na ellir newid yr amserlen addysgol rhyw fymryn fel bod y gwyliau yn disgyn ar gyfnod sy’n teimlo fwy fel haf y dyddiau yma, sef Gorffennaf a Mehefin, hyd yn oed Mai! Wedi’r cwbl, nid myfyrwyr Prifysgol yw’r unig rai a effeithir. Nawr yw cyfnod arholi T.G.A.U. a Lefel A hefyd

‘Dwn i ddim am bawb arall, ond fyddai ddim ots gen i ddechrau’r flwyddyn rhyw dair wythnos neu fis ynghynt, pe bawn i bellach wedi gorffen ac yn gallu cael barbiciw bob nos yn yr ardd gefn.

Efallai nad ydw i wirioneddol o ddifrif yn dweud hyn, achos dyw newid o’r fath ddim yn beth realistig iawn. Wedi’r cwbl, mae gan Mr Brown bethau llawer pwysicach ar ei blât na rant gan fyfyriwr bach blin yng Nghaerdydd! Felly beth am y Cynulliad, tydi nhw ddim yn gwneud llawer o ddim byd ar y funud, byddai hwn yn brosiect bach iawn iddynt! Efallai yr a’i am dro bach i’r Bae i awgrymu’r peth ar ôl yr arholiadau… os fydd hi’n braf.