Clod, ond dim Cwpan

Er bod y gêm wedi bod ers dros wythnos bellach, (un i ddim i Portsmouth oedd hi gyda llaw!) hwn yw’r cyfle cyntaf i mi ei gael i sôn amdani yn Gair Rhydd. Mae’n debyg y byddwch wedi diflasu ar yr hanes erbyn hyn ond gan fod TaFod wedi bod yn dilyn y daith ar y ffordd i Wembley gwell fyddai imi sôn ychydig am y rownd derfynol!

Anlwcus iawn oedd y tîm o Gymru, achos hwy oedd y tîm gorau ar y diwrnod o ddigon yn fy nhyb i. Pe gofynnech i ddilynwr pêl droed o blaned arall pa dîm oedd o gynghrair uwch na’u gwrthwynebwyr, rwy’n siwr mai Caerdydd fyddai’r ateb, ar sail yr hanner cyntaf yn sicr. Caerdydd oedd yn pwyso a Chaerdydd oedd yn edrych fwyaf cyfforddus ar y bêl ond yn anffodus roedd Portsmouth yn ddigon cryf i gadw eu gafael ar eu mantais ar ôl iddynt fynd ar y blaen gyda gôl ffodus braidd.

Chwaraeodd pedwar amddiffynnwr a chwaraewyr canol cae Caerdydd yn arwrol, yn enwedig Johnson a Loovens yng nghalon yr amddiffyn, ond yn anffodus, yn y mannau pwysicaf ar y cae yr oedd man gwan Caerdydd, yn y gôl ac yn yr ymosod. Mae camgymeriad Peter Enckelman a roddodd y gôl ar blât i Kanw yn hysbys i bawb ond nid hwnnw oedd ei gamgymeriad cyntaf. ‘Dwn i ddim pam ond dydw i byth yn ffyddiog iawn pan mae’r golwr pen felyn o’r Ffindir yn chwarae rhwng y pyst! Tydi pethau fawr gwell ym mhen arall y cae, a’r unig ymadrodd addas i ddisgrifio Jimmy Floyd Hasslebank druan yw’r ymadrodd Saesneg hwnnw, ‘Past it’! Cafodd Paul Parry hanner cyntaf da iawn ond nid ymosodwr yw ef yn y bôn ac er gwaethaf ei ymdrechion nid oedd yn edrych yn debygol o roi’r bêl yn y rhwyd.

Oedd, roedd Caerdydd yn anffodus felly ond does dim pwynt codi pais ar ôl piso, edrych ymlaen at y tymor nesaf ddylir ei wneud bellach. Dangosodd y gêm yn Wembley fod Caerdydd yn ddigon ‘tebol i fod yn gystadleuol â thimau o’r Uwch gynghrair, felly ennill dyrchafiad fydd y gobaith tymor nesaf. Ond os am wneud hynny bydd rhaid arwyddo ychydig o chwaraewyr dros yr haf, gol geidwad yn un ac un neu ddau o flaenwyr sy’n gwybod ble mae’r gôl. Os llwydda’r clwb i wneud hynny heb golli eu gafael ar chwaraewyr fel Ramsey, Ledley a Jonhson does dim rheswm pam na ddylai’r Adar Gleision hedfan yn uchel unwaith eto yr amser yma, tymor nesaf.