Drama radio yw Siwan a doedd dim dianc rhag y ffaith honno yn y perfformiad hwn. O safbwynt llenyddol mae’n debyg mai dyma’r ddrama Gymraeg orau, ond mae angen mwy na hynny mewn cynhyrchiad theatr cyfoes.
Mewn gwirionedd, dylid addasu dipyn ar ddrama o’r fath ar gyfer y llwyfan ond feiddia neb gyffwrdd a champwaith Saunders Lewis, oherwydd rhyw barchedig ofn ohono. Yn hytrach, yr hyn a geir, yw’r sgript radio wreiddiol gyda dim byd ond y set a dehongliad y cynhyrchydd i roi iddi stamp y llwyfan. Canlyniad hyn yn yr achos hwn oedd symud dim ond o ran symud, cwbl annaturiol yn y llwyfannu, a golygfeydd gweledol dibwrpas rhwng gwahanol actau.
Syml a di fflach oedd y set a doedd dim llawer o bwrpas na symbolaeth bwysig iawn i’r drych mawr a redai ar hyd cefn y llwyfan. Eto, mae’n anodd gwybod be all unrhyw gynllunydd ei wneud â drama radio sydd heb ei haddasu mewn unrhyw ffordd ar gyfer y llwyfan. Yn y bôn waeth i rhywun fynd i’r theatr i wrando ar ddarlleniad ohoni ddim gyda’r actorion yn eistedd i lawr trwyddi.
Wedi dweud hyn, roedd yn berfformiad digon derbyniol heb fod yn syfrdanol. Ffion Dafis fel Siwan oedd yn cynnal yr holl beth ond mae Lisa Jên Brown yn haeddu clod am ei phortread o Alis hefyd. Does dim dwywaith mai’r golygfeydd rhwng y ddwy yma oedd cryfder y cynhyrchiad.
Bron ei bod hi’n ddyletswydd ar unrhyw un sy’n honni eu bod yn Gymry diwylliedig fynd i weld Siwan pan ddaw cyfle fel hwn, ond peidiwch disgwyl profiad theatrig anhygoel.
