Doniau Disglair yn Difyrru


Doniau Disglair yn Difyrru

Doniau Disglair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008

Mae’n debyg mai’r un llyfr a chanddo’r gwerthiant gorau yng Nghymru’n flynyddol yw Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r holl ddyfalu blynyddol a’r statws dyrchafedig a roddir i enillwyr y prif wobrau’n golygu bod yna fynd go fawr ar y gyfrol hon, wrth i’r darllenydd awchu am gael profi o’r arlwy sydd, yn aml, wedi’i ganmol i’r cymylau gan y beirniaid, neu’n fwy awyddus, efallai, i nodi gwendidau’r darn a oedd o fewn trwch blewyn i gael ail.

Ond bellach, daeth diwedd Mai hefyd yn gyfnod o flysio am gynnyrch arobryn ieuenctid y wlad. Mae’r safon yn cynyddu’n flynyddol, a’r rhagolygon am gyfansoddiadau Eisteddfodau Cenedlaethol y dyfodol yn argoeli’n dda iawn. Eleni yr un modd, chaiff y darllenydd mo’i siomi wrth bori drwy weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod yr Urdd.


Read article Comment

Blwyddyn Gampus i’r GymGym


Gyda blwyddyn arall yn tynnu at ei therfyn i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd beth am daro golwg yn ôl ar ddigwyddiadau’r GymGym dros y flwyddyn a fu

Mae’n debyg i rai gael trafferth cofio’r crôl teulu y diwrnod ar ôl iddo ddigwydd heb sôn am fisoedd ar fisoedd yn ddiweddarach! Ond hwnnw oedd digwyddiad cyntaf eleni fel pob blwyddyn arall a pha ffordd well i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ddod i adnabod gweddill y criw Cymraeg.

Doedd dim rhaid aros gormod wedyn tan y trip blynyddol i Aberystwyth ar gyfer y ddawns ryng-golegol. Dyma ymweliad digon difyr, ond eto digon tebyg i’r flwyddyn diwethaf. Tybed a ddylai’r ddawns ryng-golegol fel yr eisteddfod symud o un lleoliad i’r llall o flwyddyn i flwyddyn? Yn sicr, tydw i ddim yn gwneud yn fy nhrowsus wrth edrych ymlaen am gael mynd i Aber eto flwyddyn nesaf!


Read article Comment