Nid yw Caerdydd yn ddinas fawr iawn ar y cyfriw. O’i gymharu â dinasoedd mawr ein byd, lle bychan iawn ydyw. Ond gyda tua 30,000 o bobl ifanc yn y Prifysgolion, mae hi’n cynnig y gorau ym mhob agwedd o fywyd myfyriwr.
Beth sy’n gwneud Caerdydd yn unigryw i ddinasoedd eraill Prydain, yw ei bod yn ddinas gymreig. Caerdydd yw calon Cymru, ac er efallai y byddai rhai yn anghytuno, ni ellir gwadu na ganolir nifer helaeth o bethau Cymreig a Chymraeg yng Nghaerdydd- o Ganolfan y Mileniwm a’r Cynulliad i Stadiwm y Mileniwm sef cartref ein tîm rygbi cenedlaethol. Heb os nac onibae, mae Caerdydd yn llawn cyfoeth o Gymreictod cyffrous.
Erbyn hyn, mae’n braf medru dweud fod cannoedd o Gymru Cymraeg yn byw, gweithio ac yn astudio yn y Brifddinas. Wrth gerdded lawr Heol Salisbury neu City Rd ar ôl noson allan, mae’r iaith Gymraeg iw chlywed, ac nid ydyw’n sioc i glywed y Gymraeg yn y George neu’r Macki bellch. Mae’r iaith Gymraeg heb os, yn ychwanegu at gymeriad y ddinas, yn plethu’n berffaith ac yn hollol naturiol i’r collage cosmopolitan sy’n gwneud Caerdydd yn le mor gyffrous i fyw ynddi. Yn rhan o’r cyffro hwn mae cymdeithas o tua 100 o fyfyrwyr gwyllt a thanllyd; sef y GYM GYM (y Gymdeithas Gymraeg).
Mae’r gymdeithas wedi bodoli ers cryn amser bellach ac wedi llwyddo i sefydlu ei hun fel un o gymdeithasau fwyaf poblogaidd Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd. Pwrpas y Gymdeithas yw rhoi cyfleu i fyfyrwyr Caerdydd gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir nifer fawr o ddigwyddiadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn. O grôls tafarn o amgylch Caerdydd gyfan i dripiau tramor (i Baris a’r Alpau Ffrengig), mae’r GYM GYM yn cynnig rhyw beth arbennig i bawb. Uchafbwynt y flwyddyn i nifer yw’r Ddawns Fawreddog a fydd eleni yn cael ei chynnal yng ngwesty’r Angel yng nghanol y ddinas. Cynhelir hefyd, ddawns ryng-golegol yn Aberystwyth ac Eisteddfod Ryng-golegol yn Abertawe.
Yn ystod wythnosau cyntaf y flwyddyn, rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau sydd yn gyfle i’r ‘glas’ ddod i nabod gweddill y criw. Mae’r Crôl Teulu yn cael ei gynnal ar y 29ain o fis Medi, i ddechrau am 6 o’r gloch yn nhafarn Owain Glynd?r ac i orffen yng Nghlwb Ifor Bach. Yn ystod y crôl yma fe fydd y flwyddyn gyntaf yn cael eu mabwysiadu am un noson yn unig gan aelod o’r ail flwyddyn. Fe fydd eich tad neu fam newydd sbon yn eich tywys o gwmpas tafarndai’r ddinas gan ddangos sut y mae’r Cymry Cymraeg yn yfed yng Nghaerdydd. Mae’r Crôl Teulu yn adnabyddus fel crôl gwallgof ac yn llawn hwyl, ac wrth edrych yn ôl ar llynedd, fe fyddwch yn lwcus i gyrraedd Clwb Ifor ar ddiwedd y noson heb sôn am gofio’r hyn a wnaethoch!!! Crôl newydd ar gyfer eleni yw’r Crôl Cyffion fydd yn dechrau am 6.30p.m yn y Central Bar ar yr 2il o Hydref. Dewch a’ch cyffion cincî gyda chi, neu byddwch yn barod i gael eich clymu wrth eich garddyrnau!
Dewch yn llu i Ffair y Cymdeithasau er mwyn ymaelodi gyda’r Gymdeithas! Y ffordd orau i fwynhau eich cyfnod yn y Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg!
