Os ydych chi’n darllen yr erthygl hon rydych chi’n amlwg yn Gymro neu’n Gymraes ac yn un o nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy’n gadael cartref hollol neu rhannol Gymraeg ei hiaith. Roeddech efallai wedi syfrdannu i sylwi eich bod erbyn hyn yn byw mewn dinas fodern lle mae’r Gymraeg yn un o nifer o ieithoedd lleiafrifol. Yn ôl cyngor Caerdydd yn 2001 roedd 10.9% o boblogaeth y Sir yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rydym ni’n ceisio cymdeithasu fel Cymry, a byw bywyd Cymraeg, oleia’n rhannol, ac yn dueddol o deimlo cyfrifoldeb tuag at y hybu’r Cymraeg.
Mae nifer o ffyrdd y gellir hybu’r a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae nifer o dafarndai Cymreig, fel y Mochyn Du, Queen’s Vault ac Owain Glyndŵr. Yn ystod gemau’r chwech gwlad mae’r tafarndai yma, a nifer o rai eraill, yn orlawn o Gymry yn gweiddi eu cefnogaeth a chreu awyrgylch tanllyd dros y ddinas. Mae’n siwr eich bod wedi darganfod Clwb Ifor Bach erbyn hyn a profi lle mor dda ydyw i gwrdd â Cymry a chymdeithasu’n Gymraeg. Caiff ei alw’n ‘Welsh Club’ am reswm! Cynhelir hefyd nosweithiau o gerddoriaeth Cymraeg ar draws y ddinas megis llynedd bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gigs misol yn Buffalos. Mae’r ŵyl gerddorol ‘Sŵn fest’ hefyd yn gyfle i glywed bandiau cymraeg ac addysgu myfyrwyr y ddinas am y Sin Roc Gymraeg. Bydd dros cant o fandiau rhyngwladol yn perfformio mewn nifer o glybiau ar draws Caerdydd rhwng y 13-16 o Dachwedd.
Ymuno gyda’r GymGym neu Aelwyd y Waun Ddyfal, mae’n siwr, yw’r ffordd orau o gwrdd â Chymry’r brifysgol. Mae crôls y GymGym yn ffordd dda o wneud ffrindiau, ac mae nifer o dripiau wedi eu trefnu hefyd. Gyda dros gant yn troi i fyny i ymarfer cynta Côr y Waun Ddyfal mae’n ennill enw cryf iawn i’w hun fel côr ieuenctid Cymraeg y ddinas ac fe gynhiga nifer o weithgareddau megis dawnsio gwerin sydd efallai ychydig yn fwy traddodiadol Gymreig eu natur na’r crôls!
Beth am y ffordd yr ydym ni’n cael effaith ar y ffordd y mae’r di-Gymraeg yn gweld Cymru? Daw nifer o fyfyrwyr i Gaerdydd o ardaloedd eraill o Brydain ac o wledydd tramor sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth am Gymru a’r Gymraeg ac ddim yn disgwyl clywed yr iaith cymaint (sy’n arbennig o wir os ydyn nhw’n byw yn Senghennydd). Sawl gwaith mae pob un ohonnom wedi gorfod addysgu rhywun am Gymru a dysgu ychydig o’r iaith iddynt? Sawl un ohonnom sydd wedi cyflwyno ein ffrindiau di-Gymraeg i fand Cymraeg? A oes arnom gyfrifoldeb i anog pobl i werthfawrogi’r Gymraeg, i ddysgu’r Gymraeg? Yn fy marn i, rydym ni wedi gwneud penderfyniad i ddod i’r brif ddinas er mwyn cael bywyd modern Cymraeg – lle mae’r Gymraeg yn ddewis personol yn hytrach na’n ran ynatod o’n bywyd. I mi, dyma beth yw Cymru Fodern – lle dewis yw’r Gymraeg, lle mae hi’n byw ochr yn ochr a diwylliannau eraill. Rydym ni’n anog y Gymraeg trwy ddangos ei fod yn fyw, yn hytrach na thrio ei gwthio ar bobl.
Ond, wrth i’r twf yn y Gymraeg ledaenu ar draws Caerdydd, daw agweddau cyferbyniol i’r lan. Wrth i’r adfywiad cymreig ail-hawlio’r Brif ddinas mae rhai o’r bobl leol yn teimlo eu bod yn cael eu hystyried yn Gymry is-raddol i rai sy’n medru’r iaith, er i’w teuluoedd fyw yma ers canrifoedd. A yw hyn yn iach i’r iaith? Neu a’i eu gwthio i ffwrdd wnaiff hyn? Credai eraill bod yr adfywiad yn creu gobaith am ddyfodol yr iaith. Roedd 76.8% yn fwy o bobl yn siarad Cymraeg yn 2001 yng Nghaerdydd nac yn 1991. Ystadedau addawol iawn er mwyn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw. Gobeithio byddwn fel myfyrwyr yn gallu cyfrannu rhywbeth i’r gymdeithas Gymraeg yng Nghaerdydd dros ein blynyddoedd yma’n astudio.
