Paris, Milan, New York... Caerdydd?

Wrth gerdded i lawr Stryd y Frenhines mae pob math o ffasiynau i’w gweld – o’r topshop-holics i’r Mods a’r hippies. Er hyn mae nifer o’r trigolion i weld yn byw mewn hoodies a boots Ugg. O ran ffasiwn Prydain, mae dillad mwy alternative yn dod i’r fei. Erbyn hyn mae pobl yn gweld yr ochr ddrwg i ffasiwn y stryd fawr, bod hynny’r pris neu’r ffaith bod nifer o’r siopau yma’n defnyddio sweatshops. Neu efallai fod pobl wedi syrffedu ar wisgo ‘run peth a phobl eraill. Mae dillad vintage wedi dod yn beth ffasiynnol iawn, ac erbyn hyn mae hi’n fwy derbynniol i chi siopa mewn siopau elysen.

Mae gan Gaerdydd lawer i’w gynnig os mae ffasiwn y stryd fawr sy’n mynd a’ch pryd. Mae Stryd y Frenhines yn llawn enwau mawr sy’n edrych i ddenu myfyrwyr, gyda rhai siopau’n cynnig gostyngiadau pris i fyfyrwyr, fel arfer o 10%. Yn ogystal a hyn mae Topshop yn cynnal nosweithau lle mae’r gostyngiad yn 20% ar ddechrau tymor yr hydref – i’r rhai wnaeth ei fethu wythnos dwytha, rhowch o’n eich dyddiadur at flwyddyn nesa!

Mae na hefyd ffair ffasiwn vintage yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul yr 30fed o Dachwedd yn Neuadd y Ddinas, o 10yb tan 5yh. Mae’n rhaid talu i fynd i mewn, ond os mai’r math yma o ffasiwn sy’n mynd a’ch bryd, mae’n siwr ei fod o werth y pres! Am fwy o wybodaeth ewch i www.blindlemonvintage.co.uk. Mae rhai siopau anibynnol hefyd yn gwerthu ffaswin vintage, fel Hobos yn yr High Street Arcade.

Os mai siopau elysen sy’n mynd a’ch pryd, bydd rhaid mentro’n bellach na’r stryd fawr. Mae nifer i’w cael ar Albany Road a Whitchurch Road, ac mae nifer yn llechu mewn strydoedd bach Caerdydd. Er bod angen mynedd â siopa elysen, mae’r holl dwrio yn gwneud ffindio dilledyn da yn gymaint mwy buddiol – heb sôn am fod llawer rhatach! Mae rhai pobl hefyd wedi dechrau addasu dillad y maent yn eu prynu o siop elysen a rhoi gwedd newydd iddynt, er bod angen dipyn o sgil gwnïo ar gyfer gwneud hynny. Hyd yn oed os nad ydych eisiau prynu popeth o siop elysen, mae nhw’n le gwych i edrych am ddillad fancy dress, sy’n beth da i’w gofio o feddwl bod nifer uchel o socials a phartis yn rhai gwisg ffansi. Prin y gellir fynd allan yng Nghaerdydd heb weld rhywun mewn gwisg wallgof!

Mae un lle arall ar gyfer darganfod dillad alternative; y rhyngrwyd. Os ydych yn ‘siopwr cydwybodol’ – sef ethical shopper – ewch i www.alotoforganics.co.uk i gael rhestr hirfaith o wefannau sy’n gwerthu pob math o ddillad – rhai masnach deg, rhai organig, rhai wedi ei hailgylchu. I’r rhai sy’n meddwl mai dillad hemp di-siap fydd rhain i gyd, mae pethau wedi newid cryn dipyn erbyn hyn! Mae rhai o’r dillad braidd yn rhy ddrud at budget stiwdant gan ei bod nhw wedi ei gwneud â llaw, ond mae nifer o’r dillad yn rhesymol iawn – yn enwedig pan mae nhw’n cael sêl neu gynnig arbennig, fel mae nifer o’r gwefannau’n dueddol o’i wneud. Yn ogystal â’r gwefannau yma, mae e-bay dal yn cael ei gysidro fel un o’r llefydd gorau i brynu dillad vintage yn rhad ac yn hawdd.

Felly, ffasiwn Caerdydd? Gyda’r holl ffyrdd yma o brynu dillad gwreiddiol yn hawdd, fydd dim esgys bellach i fyw yn eich hoodie!