Ymddengys fod LCO (‘Legislative Competence Order’) yr iaith Gymraeg wedi ei rwystro unwaith yn rhagor gan y broses hirwyntog o geisio sicrhau mwy o bwerau i’r Cynulliad yma yng Nghaerdydd.
Mae siomedigaeth fawr ynglyn â’r broses hon gan mai dim ond pedair LCO sydd wedi eu cytuno ers i’r system gael ei greu fel rhan o’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae LCO (neu’r ‘Hell-co’, fel dywed Betsan Powys yn ei blog yn ddiweddar) yn rhoi pwer i’r Cynulliad greu mesur newydd i ddeddfu arno.