Ers blwyddyn bellach mae Nyth wedi bod yn diddanu criw bychan a ffyddlon gyda cherddoriaeth fyw yng nghaffi Gwdihw.
Wedi ei sefydlu’r llynedd gan Alun Gaffey (y merlyn mwyaf blewog o’r Race Horses) gyda phwyslais pendant ar gerddoriaeth acwstig, bu’n arbrawf lwyddiannus mewn gigio hamddenol heb fwci bo dyn sain ar gyfyl y lle.