Beth am ni, S4C?


Dwi’n siwr nad fi oedd yr unig un i fynd yn wirion bost rhyw bythefnos yn ôl pan ddangoswyd y gyfres Jabas ar S4C eto. Be gewch chi well na rhamantu’n ddiddiwedd am ddyddiau ysgol trwy gyfrwng cymeriadau doniol mewn cyfres oedd yn trin themâu sy’n bwysig i bobl ifanc ym mhob oes – cariad, cyfeillgarwch, cyffuriau ac alcohol.

Ond wrth edrych yn ôl yn rhamantus i’r gorffennol dyma fi’n meddwl yn sydyn – be ddiawl sydd wedi digwydd i ddarpariaeth S4C ar gyfer pobl ifanc? Mae Bandit wedi diflannu i ddechrau.


Read article Comment

Diffyg dewis 'Steddfod 'ma


Roeddwn i’n wirioneddol edrych ymlaen at ‘steddfod Glyn Ebwy eleni, mae’r ‘steddfod wastad yn well mewn lleoedd lle nad ydych chi’n disgwyl ‘steddfod wych (e.e. Abertawe a’r Wyddgrug). Roedd fy ngobeithion ar gyfer Blaenau Gwent felly yn uchel iawn. Ond, yna, trychineb – Cymdeithas yr Iaith a Maes B yn uno ar gyfer ‘steddfod eleni ac am o leiaf dwy eisteddfod arall hefyd!

Y peth gorau am yr eisteddfod ydi eistedd yn un o’r bariau ar y maes ar brynhawn crasboeth yn trafod yn ddwys “be ‘di’r plan am heno?”. Gydag un neu weithiau ddwy gig bob noson gan Gymdeithas yr Iaith yn ogystal â gigs Maes B a Maes C roedd yna ddigon o opsiynau i fodloni amrediad eang o chwaeth cerddorol. Ond mae’r dewis bellach wedi diflannu ar ôl i’r ddau brif drefnydd uno, gan orfodi pawb fynd i gigs swyddogol y ‘sdeddfod bob noson. Ac ‘wn i ddim os mai dim ond fi sydd wedi sylwi, ond ydi cynulleidfa Maes B ddim yn mynd yn ‘fengach bob blwyddyn d’wch? Dewis o glwb ieuenctid Maes B neu glwb yr henoed Maes C fydd hi i ni fyfyrwyr ym Mlaenau Gwent eleni mae arnaf ofn.


Read article Comment (2)