Yn ol yr arfer, ar ol treulio wthnos gynta’r tymor ar flaenau’n traed o fore (wel falle ddim) tan hir wedi’r nos, wedd hi’n hen bryd am fersiwn y Gym Gym o wthnos y glas. Tra bod gweddill myfyrwyr y ddinas yn cymryd hoe fach i drio cofio digwyddiadau’r wthnos gynt, partio oedd dal ar feddwl y Cymry. Y Crôl Teulu ddaeth gynta, noson llawn gwynebau newydd, a chwilio facebook yn y bore i gofio enwau! Yn gynta rhaid oedd i bawb o’r flwyddyn gynta gwrdd a’u mamau a’u tadau newydd, a chael holl hanes y linell deuluol. Yna dechreuwyd ar grol o amgylch nifer o dafarndai mwyaf adnabyddus y ddinas cyn llwyddo (a llwyddo yw’r gair cywir mewn nifer o sefyllfaoedd!) cyrraedd Clwb Ifor Bach i ddawnsio hyd yr oriau man. I nifer y Crol Teulu yw un o nosweithi trymaf y flwyddyn, gyda’r genhedlaeth hŷn yn ceisio gwneud yn siwr eu bod yn gorffen y nos mewn gwell sdâd na eu plant newydd. Er hyn nid yw o bell ffordd yn cyrraedd lefelau eithafol nifer o seremoniau derbyniad clybiau’r brifysgol.
Gwelwyd tipyn o sylw o’r seremoniau yma ar y newyddion yn ddiweddar, ac heb os mae’r crôl yn buddio o beidio bod mor eithafol. Mewn tîm rygbi neu hoci mae aelodau’r tim yn dod i nabod eu gilydd yn naturiol dros y flwyddyn, ac felly mae eu noson o dderbyniad yn gyfle i’r aelodau hŷn wneud i eraill be fuon nhw drwyddo. Yn gyferbyniol, mewn cymdeithas fel y Gym Gym mae’n rhaid gweld y noson fel cyfle i ddod i nabod cymry eraill. I rhai, enwedig rhai sy’ ddim yn byw gyda Chymru Cymraeg, mae’r cyfleuoedd hynny yn gallu edrych yn brin.
Parhaodd yr wythnos gyda chrôl newydd ar gyfer eleni, sef Crôl Cyffion, lle cafwyd pawb eu clymu mewn grwpiau o ddau ac i fyny. Syniad gwreiddiol iawn oedd nid yn unig yn dod a phawb yn agosach (yn llythrennol!) ond yn rhoi cipolwg fach mewn i fywydau rhai o’r aelodau mwy cinci! Ymgeisiodd rhai i fynd i’r ty bach gydai’i gilydd hyd yn oed, lle bu rhaid gwneud rhywfaint o ‘waith tîm’ yn ôl y son!! Wedi cyrraedd Walkabout roedd hawl rhyddhau’r garddyrnau a mynd fel a fyn, ond tybed faint benderfynnodd nad oedden eisiau mynd i unman…..tybed faint oedd dal sownd yn y bore??
