Thursday July 24, 2008

Taf-Od

Doniau Disglair yn Difyrru

Mae’n debyg mai’r un llyfr a chanddo’r gwerthiant gorau yng Nghymru’n flynyddol yw Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r holl ddyfalu blynyddol a’r statws dyrchafedig a roddir i enillwyr y prif wobrau’n golygu bod yna fynd go fawr ar y gyfrol hon, wrth i’r darllenydd awchu am gael profi o’r arlwy sydd, yn aml, wedi’i ganmol i’r cymylau gan y beirniaid, neu’n fwy awyddus, efallai, i nodi gwendidau’r darn a oedd o fewn trwch blewyn i gael ail.

Blwyddyn Gampus i’r GymGym

Mae’n debyg i rai gael trafferth cofio’r crôl teulu y diwrnod ar ôl iddo ddigwydd heb sôn am fisoedd ar fisoedd yn ddiweddarach! Ond hwnnw oedd digwyddiad cyntaf eleni fel pob blwyddyn arall a pha ffordd well i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ddod i adnabod gweddill y criw Cymraeg.

Clod, ond dim Cwpan

Er bod y gêm wedi bod ers dros wythnos bellach, (un i ddim i Portsmouth oedd hi gyda llaw!) hwn yw’r cyfle cyntaf i mi ei gael i sôn amdani yn Gair Rhydd. Mae’n debyg y byddwch wedi diflasu ar yr hanes erbyn hyn ond gan fod TaFod wedi bod yn dilyn y daith ar y ffordd i Wembley gwell fyddai imi sôn ychydig am y rownd derfynol!

Siwan yn y

Drama radio yw Siwan a doedd dim dianc rhag y ffaith honno yn y perfformiad hwn. O safbwynt llenyddol mae’n debyg mai dyma’r ddrama Gymraeg orau, ond mae angen mwy na hynny mewn cynhyrchiad theatr cyfoes.

“Ma’i’n Braf!”

Mae rhai pobl yn dueddol o siarad am y tywydd pan nad oes ganddynt ddim byd arall i siarad amdano. Mae arna’i ofn fy mod i’n euog o hynny’r wythnos yma!

Gigs y Steddfod

Gyda’r flwyddyn brifysgol yn brysur ddod i ben does dim llawer o amser i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol sydd wrth gwrs eleni yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd.

Munud i Feddwl ar Funud i Feddwl

Weithiau mae angen munud i feddwl, ond dro arall mae munud yn amser rhy hir.

Mae angen munud i feddwl ar ‘Who Wants to be a Millionaire’ ond ddim ar yr ‘Weakest Link’. Mae angen munud i feddwl ar reolwr pêl droed wrth ddewis ei dîm ond ddim ar gôl-geidwad wrth arbed cic. Mae angen munud i feddwl wrth garu ond ddim wrth ddisgyn mewn cariad.

Ffafriaeth ar y Ffordd i’r Ffeinal?

Mae diwrnod mawr yr Adar Gleision y prysur agosáu bellach. Bydd tîm pêl droed Caerdydd yn herio Portmouth yn Wembley ddydd Sadwrn wrth i wythnosau o aros ddod i ben i gefnogwyr y Prifddinaswyr. Does dim diwrnod yn mynd heibio heb i’r clwb fod yn y newyddion am rhyw reswm neu’i gilydd, a’r teimlad a geir wrth glywed bob stori yw bod Caerdydd wedi cael perffaith chwarae teg, a mwy efallai.

Gwlad y Gân – Nid y Gomedi!

Efallai i rai ohonych ddarllen am y fenter iaith newydd sydd wedi cael ei sefydlu ym Mhatagonia yn Taf-od yr wythnos diwethaf. Wel, ar nos 24 Ebrill cyhaliwyd gig i godi arian at y fenter yn Nghlwb Tafod, yng ngwesty NosDa, Riverbank. Nid dyna’r unig gysylltiadau rhwng y gig a’r fenter fel y mae’n digwydd. Mae NosDa yn noddi Menter Iaith Patagonia yn un peth. Hefyd, MC Mabon oedd yn gorffen y noson, a bu ef ym Mhatagonia’n recordio’i albwm ddiweddaraf.

Crôl Canton

Gwilym Dwyfor

Golygydd Taf-od

Dyma ddigwyddiad cyntaf y GymGym yn dilyn y Pasg eleni, a dyma ddigwyddiad blynyddol poblogaidd iawn. Yn wir, dyma un o’r crols gorau yn fy marn i. Does dim rhaid poeni am rhyw wisg ffansi arbenig, na chwaith, am ben mawr y diwrnod wedyn gan mai dydd Sul yw’r diwrnod hwnnw!

Mentro i’r Wladfa

Gwilym Dwyfor

Golygydd Taf-od

Fyddai arlwy Nadoligaidd S4/C ddim yn gyflawn heb rhyw chwe rhaglen wahanol am Batagonia! Yr un peth fydd yn mynd trwy fy meddwl i bob tro wrth wylio’r rhaglenni yma yw mai rhywbeth yn unigryw i’r genhedlaeth hyn yw’r Gymraeg yn y rhan bach rhyfeddol yma o’r Ariannin. Da iawn clywed felly bod rhywbeth yn cael ei wneud er mwyn hybu’r Gymraeg ymhlith yr ifanc yno.

Y Gobaith a'r Angor

Bu Bara Caws yng Nghaerdydd ar eu taith ond perfformiad yn Harlech yn ystod gwyliau’r Pasg a welais i. Ymgais gyntaf y dramodydd o Gaernarfon oedd y ddrama hon, ond nid oedd hynny’n amlwg o gwbl yn y ddialog slic naturiol. Drama wedi ei gosod mewn tafarn yw Y Gobaith a’r Angor ac roedd clust dda Dylan Wyn Rees wedi llwyddo i gyfleu’r tynnu coes tafarnaidd i’r dim.

Teledu Realaidd

Does dim ond angen edrych ar y teledu nawr ac yn y man er mwyn cael blas ar yr hyn a elwir yn ‘deledu realaidd’. Mae nifer o raglenni ‘realaidd’ wedi bod ar y sgrin fach ers blynyddoedd, yn amrywio o gyfresi di-ben-draw o ‘Big Brother’ hyd at ‘I’m a Celebrity’.

Pêl droed Cymru

Mae’n debyg i chi sylwi bellach ei bod hi wedi bod yn dipyn o dymor i bêl droed Cymru. Ar wahân i dymor erchrydus Wrecsam mae hi wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus i’r gêm yng Nghymru. Bydd llygaid pob Cymro sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb yn y bêl gron ar Wembley mewn mis pan y bydd yr Adar Gleision yn herio Portmouth yn ffeinal cwpan yr F. A. Gan gofio hefyd eu bod wedi gwneud yn eithaf da yn y gynghrair, mae hi wedi bod yn dymor da i’r prifddinasyddion. Mae’r arch elyn, Abertawe wedi cael tymor gwell os rhywbeth wrth iddynt sicrhau dyrchafiad i bencampwriaeth Coca Cola. Cawn edrych ymlaen at gemau darbi diddorol iawn y tymor nesaf felly, gyda dau o dimau Cymru’n herio’u gilydd ar y llwyfan mwyaf ond un yn nghynghreiriau Lloegr. (Oni bai bod Caerdydd yn ennill dyrchafiad hefyd wrth gwrs!).

Cymru’n Curo’r Cefndryd Cyfagos

Daeth y galw am drip rygbi blynyddol y Gym Gym i’r fei yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ddechrau mis Mawrth. Wedi i’r criw fod yn ymbaratoi ar gyfer y daith fythgofiadwy, roedd popeth yn barod, a Dulyn yn aros amdanom.

Y Stomp!

Dim ond gair bach byr i sôn am y stomp a gynhaliwyd yn nghaffi CF10 yn yr undeb ychydig yn ôl. Cafwyd noson hynod ddifyr yno, wrth i dîm o feirdd y Gym Gym herio tîm o ddarlithwyr yr adran Gymraeg. Tasg Mererid Hopwood, y stompfeistres oedd cadw trefn ar y cyfan, a gwnaeth hynny â ffraethineb.