Thursday July 24, 2008
Yn gyntaf, ymddiheuriadau am yr erthygl a gafodd ei gwastraffu’r wythnos diwethaf. Ysgrifennais erthygl ar hanes y papur newydd dyddiol Cymraeg Y Byd, a gwneud rhyw fath o hwyl am ben y Cymry am beidio â gallu cyrraedd targedau mewn pryd.
I’r rheini ohonoch sy’n darllen y papurau dyddiol ac yn edrych ar y newyddion, mi fyddwch yn gwybod beth ddigwyddodd nesaf. Ond i’r gweddill ohonoch, dyma a ddigwyddodd. Dim ond deuddydd wedi i’m herthygl gael ei gyrru i gael ei phrintio, roedd penawdau’r newyddion yn darllen ‘Ergyd i’r Byd’. Yn syml iawn, ni fydd y papur newydd Cymraeg dyddiol yn cael ei sefydlu o gwbl erbyn hyn.
Y prif reswm dros y penderfyniad yma yw diffyg neu brinder cefnogaeth ac arian. Mae’r cwmni ‘Dyddiol Cyf.’ a oedd tu cefn i’r papur dyddiol, Y Byd, yn beio llywodraeth y cynulliad am eu penderfyniad i beidio â sefydlu’r papur newydd. Roedd y cynllun busnes wedi gobeithio cael £600,000 o arian cyhoeddus pob blwyddyn er mwyn sefydlu’r papur newydd, ond cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, mai dim ond £200,000 fyddai ar gael mewn gwirionedd.
Cafodd y Gweinidog Treftadaeth ei gynghori i gefnogi’r syniad o redeg papur newydd dyddiol Cymraeg dwy nodi fod papur newydd Gwyddeleg (Lá Nua) yn cael ei gynnal ar £200,000 y flwyddyn. Ond yn eironig iawn, cafodd ail, pan roddodd y papur newydd Gwyddeleg ddatganiad i’r wasg yn cyhoeddi y byddai’n gorfod cau o ganlyniad i broblemau ariannol.
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi creu deiseb ar y we er mwyn ceisio arbed Y Byd rhag mynd drwy’r to. Ond, os nad yw’r arian ar gael, onid gwastraff amser yw protestio a cheisio cael cymaint o bobl ag sy’n bosib arwyddo deiseb a fydd yn mynd yn ofer yn y pen draw?
Ydych chi’n gweld bai ar y Cynulliad am beidio â chyfrannu mwy o arian i’r fenter? Yn ôl y son, mae Llywodraeth y Cynulliad yn trin a thrafod beth i’w wneud nesaf yngly ˆ n â‘r papur newydd dyddiol, ond mae’r dewis yn syml. Unai mae’n rhaid iddynt gynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg, neu ai’r dewis arall yw gollwng cynllun yn gyfan gwbl?
Gwn fod nifer o’r farn ein bod ni fel Cymry Cymraeg yn haeddu papur newydd dyddiol annibynnol. Ond pa ddyfodol sydd gan ymgyrch fel hyn pan mae Golygydd Y Byd yn ymddiswyddo’r eiliad y mae’n teimlo mymryn o bwysau ar ei ysgwyddau?
Efallai fod fy erthygl i’r wythnos diwethaf wedi temtio ffawd, ond nid yw hynny’n debygol iawn! Wyddwn i ddim amdanoch chi, ond mi rydw i o’r farn fod rhaid i Lywodraeth y Cynulliad deimlo rhyw fath o fygythiad er mwyn gwneud iddynt sylweddoli fod angen y papur newydd dyddiol yma arnomni, yn hytrach na’u bod yn taflu pres at sefydliadau eraill megis Canolfan y Mileniwm a’r Ardd Fotaneg (dim byd yn erbyn y rheini wrth gwrs).
Ond, os oes digon o arian i’r sefydliadau hyn gael grant blynyddol yn ogystal ag arian ychwanegol a’r ben y rhain, sut a pham nad oes digon o arian i sefydlu cynllun papur newydd dyddiol a allai fod yn arf ieithyddol i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg?
Have your say