Dim ond gair bach byr i sôn am y stomp a gynhaliwyd yn nghaffi CF10 yn yr undeb ychydig yn ôl. Cafwyd noson hynod ddifyr yno, wrth i dîm o feirdd y Gym Gym herio tîm o ddarlithwyr yr adran Gymraeg. Tasg Mererid Hopwood, y stompfeistres oedd cadw trefn ar y cyfan, a gwnaeth hynny â ffraethineb.

Cymysgedd o’r dwys a’r doniol oedd y cerddi, ond hwyliau ysgafn iawn oedd i’r noson yn gyffredinol. I’r myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg, roedd hi’n gyfle gwych i gymdeithasu â’r darlithwyr mewn awyrgylch anffurfiol, ond does dim dwywaith i aelodau eraill y Gym Gym fwynhau’r noson hefyd. Oherwydd naws gyfeillgar y cystadlu, roedd hi’n addas rhywsut mai cyfartal oedd y ddau dîm pan y cyhoeddwyd y marciau terfynol.

Dyma un o nifer o ddigwyddiadau gwahanol a gwreiddiol i gael ei drefnu gan y Gym Gym eleni, ac yn dilyn ei lwyddiant, synwn i fawr ei weld yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.