Thursday August 28, 2008
Mae’n debyg i chi sylwi bellach ei bod hi wedi bod yn dipyn o dymor i bêl droed Cymru. Ar wahân i dymor erchrydus Wrecsam mae hi wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus i’r gêm yng Nghymru. Bydd llygaid pob Cymro sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb yn y bêl gron ar Wembley mewn mis pan y bydd yr Adar Gleision yn herio Portmouth yn ffeinal cwpan yr F. A. Gan gofio hefyd eu bod wedi gwneud yn eithaf da yn y gynghrair, mae hi wedi bod yn dymor da i’r prifddinasyddion. Mae’r arch elyn, Abertawe wedi cael tymor gwell os rhywbeth wrth iddynt sicrhau dyrchafiad i bencampwriaeth Coca Cola. Cawn edrych ymlaen at gemau darbi diddorol iawn y tymor nesaf felly, gyda dau o dimau Cymru’n herio’u gilydd ar y llwyfan mwyaf ond un yn nghynghreiriau Lloegr. (Oni bai bod Caerdydd yn ennill dyrchafiad hefyd wrth gwrs!).
Mae’r dyfodol yn edrych yn addawol ar lefel Genedlaethol hefyd, â‘r tîm cyntaf yn parhau i wneud yn dda yn eu gemau cyfeillgar a’r tîm dan un ar hugain yn gwneud yn eithriadol o dda yn gemau rhagbrofol ar gyfer pencampwriaethau Ewrop yn Sweden yn 2009. Maent ar frig eu gr^ w p â dwy gêm yn weddill felly mae hi’n argoeli’n dda. Wrth gwrs, oherwydd agwedd John Toshack, mae hanner y tîm cyntaf dan un ar hugain hefyd, ac mae rhai o’r tîm dan un ar hugain wedi elwa o’r profiad o chwarae ambell dro i’r tîm cyntaf. Mae’n debyg fod hynny’n elfen bwysig yn llwyddiant y garfan.
Yr hyn fydd yn ddiddorol i’w weld, os fydd y tîm dan un ar hugain yn ei gwneud hi yr holl ffordd i Sweden, fydd pwy fydd yn chwarae yno. A fydd y chwaraewyr sydd wedi chwarae yn y gemau rhagbrofol yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled neu a fydd chwaraewyr eraill yn cael eu galw yn ôl i’r tîm iau? Wedi’r cwbl, bydd Neal Eardly, Chris Gunter, a Gareth Bale i gyd dan un ar hugain pan ddaw’r awr fawr.
Cawn weld, ond mae un peth yn sicr, ymddengys o’r diwedd bod dull Toshack o reoli a’i bendantrwydd i gadw at hynny, ac agwedd amyneddgar y cefnogwyr yn dechrau dwyn ffrwyth. Ond os yw Cymru yn wirioneddol yn meddwl am ddod yn dîm rhyngwladol cystadleuol yn erbyn timau gwell na Lwcsenbwrg mae’n rhaid cynnwys ambell i chwaraewr mwy profiadol. Mae’n dda iawn gweld yr hogiau ifanc yn gwneud yn dda, ond mae’n rhwystredig iawn weithiau gweld cymaint o chwaraewyr da, mwy profiadol, yn cael eu hanwybyddu gan Toshack. Chwaraewyr uwch gynghrair fel Danny Collins, John Oster, a Robbie Savage ac eraill fel Paul Parry.
Wrth gwrs, mae rhesymau gan Toshack dros esgeluso rhai o’r chwaraewyr hyn, ond oni fyddai ambell un o’r chwaraewyr hyn yn ychwanegu at y sylfaen addawol sydd ym mhêl droed Cymru ar hyn o bryd? Amser a ddengys!
Have your say