Thursday August 28, 2008
Does dim ond angen edrych ar y teledu nawr ac yn y man er mwyn cael blas ar yr hyn a elwir yn ‘deledu realaidd’. Mae nifer o raglenni ‘realaidd’ wedi bod ar y sgrin fach ers blynyddoedd, yn amrywio o gyfresi di-ben-draw o ‘Big Brother’ hyd at ‘I’m a Celebrity’.
Ar hyn o bryd, fel yr ydych yn siw ˆ r o fod yn gwybod, mae trydedd cyfres deledu realaidd y BBC sy’n chwilio am gantorion, actorion a dawnswyr i berfformio yn y ‘West End’ yn cael ei darlledu ar nos Sadwrn ac ar nos Sul. Y rhaglen gyntaf o’i bath oedd ‘Maria’, yn chwilio am y ferch orau i chwarae’r rhan yn y sioe, yr ail gyfres yn chwilio am y ‘Joseph’ gorau, ac ar hyn o bryd, afraid dweud, chwilio am y ‘Nancy’ a’r ‘Oliver’ gorau yw eu blaenoriaeth. Ond sut, mewn gwirionedd, all rhywun alw sioeau o’r fath yn deledu realaidd? Beth yn union sy’n realaidd am ddeuddeg o ferched yn dawnsio ar hyd y llwyfan yn canu caneuon allan o’r sioe ‘Oliver’ gyda chamerâu ym mhobman ac Andrew Lloyd Webber yn gwneud ambell i ystum annifyr oddi ar ei orsedd?
Heb os, mae’r rhaglenni’n diddanu’r gynulleidfa yn ddi-baid, ond ai dyma’r ffordd gywir i fynd o’i hamgylch hi? Hynny yw, y cyhoedd sy’n pleidleisio i arbed y ferch maent yn ei hoffi fwyaf. Ond beth os yw’r cyhoedd yn gwneud y penderfyniad anghywir? Dywedodd y dyn ei hun, Andrew Lloyd Webber, yr wythnos diwethaf y dylai’r cyhoedd bleidleisio dros y ferch orau yn hytrach na phleidleisio dros eu gwlad. Hynny yw, ni ddylai’r cyhoedd bleidleisio dros y ferch sy’n hanu o’u gwlad. Fel y mae nifer wedi ei grybwyll eisoes, a fyddai Tara Bethan wedi mynd mor bell yn y sioe os na fyddai’r Cymry wedi pleidleisio drosti?
Ond, mae rhaglenni o’r fath wedi corddi mwy nag un o’r cyhoedd, ac rydw i’n bersonol yn adnabod ambell i gymeriad sy’n casáu sioeau o’r fath. Bu Kevin Spacey yn mynegi ei deimladau yngly ˆ n â‘r sefyllfa ar y BBC yn ddiweddar, gan awgrymu y bydd ein theatrau yn colli eu cynulleidfaoedd o ganlyniad i bw ˆ er y teledu. Hynny yw, nid yw Spacey yn credu bod y sioeau yma sy’n hyrwyddo digwyddiadau yn y West End yn gwneud dim lles i neb, a bod y BBC yn gwneud tro gwael a phawb o ganlyniad i hyn. Holodd Spacey ble roedd y 13 wythnos o hyrwyddo clasuron byd drama a chynyrchiadau’r actorion cyffredin?
Ond beth bynnag yw’r ddadl, ni ellir gwadu nad yw’r rhaglenni realaidd hyn sy’n cael cymaint o sylw gan y wasg, yn diddanu’r gynulleidfa o wythnos i wythnos. Nid oes elfen ddiddanol ynghlwm wrth y pwnc erbyn hyn, gan fod cymaint o feirniadu yn digwydd. Yn hytrach, cwestiynau yngly ˆ n â moesoldeb dyn sy’n cael eu codi gan feirniaid critigol sy’n ceisio dadansoddi rhaglenni o’r fath.
Have your say