Gwilym Dwyfor
Golygydd Taf-od
Fyddai arlwy Nadoligaidd S4/C ddim yn gyflawn heb rhyw chwe rhaglen wahanol am Batagonia! Yr un peth fydd yn mynd trwy fy meddwl i bob tro wrth wylio’r rhaglenni yma yw mai rhywbeth yn unigryw i’r genhedlaeth hyn yw’r Gymraeg yn y rhan bach rhyfeddol yma o’r Ariannin. Da iawn clywed felly bod rhywbeth yn cael ei wneud er mwyn hybu’r Gymraeg ymhlith yr ifanc yno.
Oes, mae Menter Iaith yn cael ei sefydlu ym Mhatagonia. Mae Mentrau Iaith ar hyd a lled Cymru yn hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gymdeithas, yn enwedig ymhlith yr ifanc. Rhan mawr o’u gwaith yw hybu dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg a chynnig cyfleodd i’r ifanc ddefnyddio’r iaith y tu allan i sefydliadau addysgol. Wrth gwrs, mae llawer mwy na hynny i weithgarwch y mudiad, ond mae popeth y maent yn ei wneud er mwyn yr Iaith a’i pharhad.
Yn ôl gwefan y mudiad, nod y fenter newydd hon yw ‘dylanwadu ar bobl ifanc sy’n dysgu’r iaith i barhau i’w defnyddio ar ôl gadael ysgol’. Y ddau â’r dasg o gyflawni’r nod hwnnw fydd James Williams, o Gaerdydd, a Dyfed Siôn, o Aberaeron. Ar wefan Mentrau Iaith mae James Williams yn sôn ychydig am yr hyn y mae’n gobeithio ei wneud yno, ”... union fel y mae’r Urdd a mentrau iaith yn ei gynnig yma, gweithgareddau fel chwaraeon, canu a dawnsio er mwyn dod â phobl at ei gilydd yn gymdeithasol.”
Caiff y cynllun ei gefnogi gan yr Urdd, Cymdeithas Cymru Ariannin a’r Cyngor Prydeinig a’i noddi gan NosDa. Dim ond gobeithio y caiff y fenter gymaint o lwyddiant yn Ne America ag y mae rhai wedi’u cael yma yng Nghymru. Efallai wedyn y bydd y ddelwedd o Batagonia yn newid yn y blynyddoedd i ddod.
