Weithiau mae angen munud i feddwl, ond dro arall mae munud yn amser rhy hir.

Mae angen munud i feddwl ar ‘Who Wants to be a Millionaire’ ond ddim ar yr ‘Weakest Link’. Mae angen munud i feddwl ar reolwr pêl droed wrth ddewis ei dîm ond ddim ar gôl-geidwad wrth arbed cic. Mae angen munud i feddwl wrth garu ond ddim wrth ddisgyn mewn cariad.

Priodasau pwy sy’n para hiraf? Y rhai ddywedodd ‘ia iawn’ cyn i’w cymar orffen penlinio ta’r rheini a gymerodd funud i feddwl? Pwy sgin fwyaf o ffrindiau? Y rhai sy’n dweud eu barn yn ddi flewyn ar dafod neu’r rhai sy’n cymryd munud i feddwl? Pwy sgin fwyaf o ffrindiau agos?

Peth rhyfedd yw meddwl, un o’r ychydig bethau mae pawb yn ei wneud, dyn ac anifail, trwy ei fywyd am wn i, ond eto, dyw ambell un ddim yn meddwl digon, llofruddiwyr, treiswyr, gwleidyddion hyd yn oed. Ia… gwleidyddion… mae’r rheini’n cael eu talu i feddwl! Oni na chymerant funud i wneud hynny weithiau.

‘Peth meddal ‘di meddwl’ medd rhai, ‘Ti’n gwbod be’ wnaeth meddwl’ medd un arall, ond i mi gael meddwl am un munud, mae’n rhaid i mi anghytuno. Rhaid meddwl cyn gwneud, wedi’r cwbl, dim ond munud gymerith hi! Mae meddwl ychydig bach fel ‘airbag’ felly. Meddal? Ydi, ond pwysig hefyd, ac yn ein hamddiffyn ni ac eraill rhag drwg.

Pe bai angen unrhyw dystiolaeth bellach dros ragoriaethau cymryd munud i feddwl dyna hi yn fan’na. Byddai llenor dawnus wedi oedi a meddwl am well cymhariaeth nag ‘airbag’ ond dyna ni, meddwl am rywbeth arall yr o’n i mae’n debyg!

Mae ‘na funud wedi bod bellach siawns…