Mae’n debyg i rai gael trafferth cofio’r crôl teulu y diwrnod ar ôl iddo ddigwydd heb sôn am fisoedd ar fisoedd yn ddiweddarach! Ond hwnnw oedd digwyddiad cyntaf eleni fel pob blwyddyn arall a pha ffordd well i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ddod i adnabod gweddill y criw Cymraeg.

Doedd dim rhaid aros gormod wedyn tan y trip blynyddol i Aberystwyth ar gyfer y ddawns ryng-golegol. Dyma ymweliad digon difyr, ond eto digon tebyg i’r flwyddyn diwethaf. Tybed a ddylai’r ddawns ryng-golegol fel yr eisteddfod symud o un lleoliad i’r llall o flwyddyn i flwyddyn? Yn sicr, tydw i ddim yn gwneud yn fy nhrowsus wrth edrych ymlaen am gael mynd i Aber eto flwyddyn nesaf!

Maddeuwch imi os ydw i bellach wedi colli gafael ar drefn gronolegol yr adolygiad yma o’r flwyddyn ond fe fu trip i Abertawe hefyd, rhywdro cyn y ‘Dolig rwy’n siw ^ r! Tyrfe Tawe oedd yr achlysur a cafwyd diwrnod i’w gofio.

Rwy’n amau mai yn ôl yn 2007 cynhaliwyd noson y Cawl o’r Waun Ddyfal hefyd sef noson o gawl a chân yng nghaffi CF10 yn yr Undeb. Mae’n rhaid bod y cawl yn un go lew achos mi gladdais i bowlen er nad ydw i’n foi am gawl fel arfer. Ac afraid dweud bod y gerddoriaeth yn dda gyda Fflur Dafydd ymysg eraill yn diddanu.

Fe gofiwch mai’r unig beth oedd ar feddwl pawb am dri mis cyntaf 2008 oedd y ffaith anhygoel, syfrdanol o ddiddorol fod y Pasg yn fuan eleni! Buan hefyd oedd dydd Mawrth crempog felly, ac yn wir, digwyddiad crempogaidd oedd un o rai cyntaf y GymGym ar ôl dychwelyd wedi’r Nadolig. Cynhaliwyd noson ‘Yfwn Gymru’n Sych’ yn Dirty Sue’s ar ddechrau mis Chwefror a dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi. Cafwyd cwis, cafwyd crempog a chafwyd chwalfa! Oedd, roedd y gwin yn llifo, a’r cyfan am bum punt yn unig!

Buan iawn y daeth hi’n amser am yr eisteddfod ryng-golegol wedyn a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin eleni. Bu Caerdydd yn llwyddiannus gan ddod yn ail yn yr eisteddfod am yr ail flwyddyn yn olynol. Aeth popeth yn ddigon hwylus tan amser mynd adref pan lwyddodd y GymGym rhywsut i anghofio ein llywydd, Lly ^ r Gwyn Lewis yng Nghaerfyrddin! Tyda ni’n betha’ diddiolch dudwch!

Fyddai’r flwyddyn ddim yn gyflawn heb drip rygbi ac Iwerddon oedd y gyrchfan eleni. Rwy’n siw ^ r fod pawb wedi cael penwythnos i’w gofio yn yr Ynys Werdd, ond fe adawan ni ‘Werddon yn ‘Werddon!

Tua’r un pryd cafwyd stomp yng nghaffi CF10, gyda thîm o aelodau’r GymGym yn herio tîm o staff yr adran Gymraeg. Cyfartal oedd hi yn y diwedd ac roedd hi’n noson gwerth chweil. Braf hefyd oedd clywed y Prifardd Mererid Hopwood, stompfeistred y noson yn datgan mai myfyrwyr Caerdydd oedd myfyrwyr mwyaf diwylliedig Cymru! Mae nosweithiau fel hyn yn brawf o hynny.

Cafwyd dau grôl cofiadwy o bopty’r Pasg gyda chrôl sgym-gym cyn y gwyliau ac yna crôl Canton ar ôl dychwelyd. Dyma ddau hen ffefryn a wnaeth ddim siomi.

Blwyddyn i’w chofio felly i’r GymGym, ac wythnos eto i ddod. Rwy’n siw ^ r fy mod yn siarad ar ran pawb wrth longyfarch a diolch i Lly ^ r, Anni, Steff a Manon am eu gwaith caled dros y flwyddyn, heb anghofio criw y llynedd am drefnu’r trip i’r Iwerddon. Dim ond gobeithio y bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn cystal i aelodau cymdeithas fwyaf myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.