Doniau Disglair yn Difyrru

Mae’n debyg mai’r un llyfr a chanddo’r gwerthiant gorau yng Nghymru’n flynyddol yw Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r holl ddyfalu blynyddol a’r statws dyrchafedig a roddir i enillwyr y prif wobrau’n golygu bod yna fynd go fawr ar y gyfrol hon, wrth i’r darllenydd awchu am gael profi o’r arlwy sydd, yn aml, wedi’i ganmol i’r cymylau gan y beirniaid, neu’n fwy awyddus, efallai, i nodi gwendidau’r darn a oedd o fewn trwch blewyn i gael ail.

Ond bellach, daeth diwedd Mai hefyd yn gyfnod o flysio am gynnyrch arobryn ieuenctid y wlad. Mae’r safon yn cynyddu’n flynyddol, a’r rhagolygon am gyfansoddiadau Eisteddfodau Cenedlaethol y dyfodol yn argoeli’n dda iawn. Eleni yr un modd, chaiff y darllenydd mo’i siomi wrth bori drwy weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod yr Urdd.

Un a fu’n byw yng nghysgod ymrafael Eurig Salisbury a Hywel Griffiths â’i gilydd am y gadair yn y blynyddoedd diwethaf yw Iwan Rhys. Y mae, fel hwythau, yn un o’r genhedlaeth newydd, gynhyrfus o feirdd a fu’n cynhyrchu cerddi caeth o safon aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n aelod o dîm Talwrn Y Glêr gydag Eurig a Hywel, ac er ei fod yn fardd ifanc addawol, ac er iddo ennill cadair Gw^ yl yr Urdd yn ôl yn 2001, bodloni ar y trydydd safle a fu raid am rai blynyddoedd. Ond gydag Eurig a Hywel bellach yn rhy hen i gystadlu, bron nad oedd rhai yn disgwyl i Iwan gipio’r Gadair eleni. Ni siomwyd y rhai hynny. Dyma awdl aeddfed, ddirdynnol, wir, ar adegau, a ddisgrifiwyd gan y beirniaid fel ‘Awdl aeddfed, awdl ddofn, lân a grymus’. Dwy farwolaeth yw ‘Colli’ y testun ganddo, ac mae’r cywydd deuair byrion, sy’n fesur go brin bellach, a geir pan yw’r bardd yn clywed am yr ail farwolaeth, yn cyfleu yn y nifer lleiaf posib o eiriau, ergyd ddirdynnol y golled:

‘… blew’n rhew ar war …

… Aled … galar …’

Mae’r cyfan wedi’i gynganeddu’n fedrus, a rhai trawiadau ffres yn taro’r darllenydd, a pheri i ni feddwl yn ddwys: ‘rhaid derbyn nad oes neb / a w ^ yr yr ateb i gladdu crwtyn’. Wrth ddefnyddio delweddau o longau hefyd i gyfleu mynd a dod bywyd, a holi sut mae mesur gwerth bywyd, sicrhaodd Iwan Rhys na fydd yn gorfod byw yng nghysgod ei gyd-glerwyr eto. Un aelod o’r tîm sydd ar ôl – Osian Rhys – ac ef a ddaeth yn ail eleni. Ei dro ef, efallai, yma yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf?

Blwyddyn i’r bechgyn oedd hi eleni gyda gw ^ r ifanc yn cipio’r goron hefyd am ei gasgliad crafog a chywrain o ryddiaith, ‘Gwerth’. Un ferch yn unig a ddaeth i’r brig yn y prif seremonïau, a thestun llawenydd i ni yng Nghaerdydd yw mai merch o’r ddinas, Rachel Perry, oedd honno, a gipiodd y wobr am gasgliad glân, medrus, yn ymdrin â marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf. Ond efallai mai’r llawenydd mwyaf yw mai myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Huw Alun Foulkes, aeth â hi ddydd Mercher yn ystod defod y Fedal Ddrama. Byddai’n ddigon hawdd ei gadael yn y fan yna, ond braf yw gallu dweud nad dim ond oherwydd ei fod yn fyfyriwr yma y dylid dathlu ei fuddugoliaeth. Dyma ddrama aeddfed, lân sy’n bleser i’w darllen. Ceir cymysgedd o hiwmor ffraeth yr awdur, a rhai golygfeydd cofiadwy sy’n bygwth dod â deigryn i’r llygad. Portreadu perthynas go wahanol a wneir yma, ond y mae hi’n berthynas gynnes, annwyl ac o’r cychwyn cyntaf mae’r darllenydd yn eistedd yn y dafarn gyda’r hen w ^ r a’r bachgen ifanc. Mae’r diwedd yn un teimladwy dros ben, hefyd, a’r gêmau geiriol a chwaraeir drwy gydol y ddrama’n cael eu hatseinio i ddibenion tipyn mwy difrifol na phan y’u hynganwyd am y tro cyntaf. Braf gwybod y darlledir y ddrama, maes o law, gan y BBC, ond er mwyn gwneud cyfiawnder â drama lwyfan, rhaid ei llwyfannu, a thristwch o’r mwyaf fyddai peidio â llwyfannu hon. Cyfle i gwych i Aelwyd y Waun Ddyfal, efallai, i ehangu ei gorwelion ar ôl llwyddiant yr wythnos ddiwethaf, yn enwedig o ystyried y rhan allweddol a chwaraewyd gan Huw ei hun yn y llwyddiant hwnnw?

Mynnwch gopi o’r gyfrol hon, p’un ai a ydych yn adnabod unrhyw un o’r awduron buddugol ai peidio. Dyma ddangos doniau llenyddol ifanc Cymru heddiw ar eu gorau, a phwy a w ^ yr na’ch sbardunir i lunio’ch gwaith eich hunan ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, a hithau’n dod i’r brifddinas y flwyddyn nesaf.